Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch
Bydd llawer i’w ddathlu yn Sir y Fflint wrth i ddosbarthiadau 2011 gael eu canlyniadau Safon Uwch. Yn ôl ffigurau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), llwyddodd 97.8% o’r myfyrwyr a safodd arholiadau’r bwrdd i basio, sydd ychydig yn is na’r ffigur cyfatebol ar gyfer 2010, sef 99.4%. Unwaith eto, mae cyfradd llwyddiant Sir y Fflint yn cymharu’n ffafriol â chyfradd Cymru gyfan, sef 97.2%, sydd fymryn yn uwch na’r ffigur ar gyfer 2010, sef 97.1%. Llwyddodd 19.7% o’r rheini a safodd arholiadau CBAC yn Sir y Fflint i sicrhau A* ac A o’u cymharu â 17.5% yn 2010, a 23.9% ledled Cymru. Bydd y ffigurau ar gyfer Sir y Fflint yn cael hwb sylweddol pan gyhoeddir canlyniadau Bagloriaeth Cymru. Bydd y rhai sy’n cael y cymhwyster hwn yn cael gradd sy’n cyfateb i A. Yn Sir y Fflint tua hanner yr arholiadau y bydd y myfyrwyr yn eu sefyll sy’n cael eu gosod gan CBAC a cheir canlyniadau’r byrddau eraill yn ddiweddarach yn ystod y dydd. Yn ôl Ian Budd, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes: "Ar ôl cael y wybodaeth am ganlyniadau Bwrdd Arholi CBAC, mae’r Cyngor yn ymuno â rhieni, gwarcheidwaid ac ysgolion i ddathlu canlyniadau’r myfyrwyr Safon Uwch ac yn eu llongyfarch nhw a’u hathrawon yn wresog ar eu gwaith caled a’u hymroddiad. "Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithio’n galed i ddilyn rhaglenni astudio anodd. Rwy’n falch iawn drostynt i gyd ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt adeiladu ar y canlyniadau hyn a symud ymlaen i ddilyn cyrsiau Addysg Uwch, cyrsiau hyfforddi neu ddechrau gyrfa." Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Steele - Mortimer, yr Aelod Gweithredol dros Ddysgu Gydol Oes: "Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu’n glir ymroddiad myfyrwyr Sir y Fflint i’w gwaith. Rwy’n eu llongyfarch i gyd ac yn canmol eu hathrawon a’u rhieni am y gefnogaeth rwy’n gwybod iddynt ei gynnig i’r myfyrwyr. Mae’r canlyniadau, unwaith eto, yn newyddion da i Sir y Fflint."






