Yr Enwebiadau Yw…
English version
Ar ôl bore hir o gael yn barod a phacio, roedd hi'n amser i fynd am faes parcio Tesco i gyfarfod â'r gyrrwr bws am y dydd. Roeddem yn hapus iawn nad Geoff CLIC oedd yn gyrru. Pan ymuno gyda'r rhai eraill oedd ar y bws yn barod roedd yn grêt gweld cymaint o wynebau cyfarwydd a derbyn cwtsh. Cawsom ein seddi.
Roedd y 7 person ifanc o Fflintyr Ifanc yn gyffrous i weld pwy arall fydda'n ymuno gyda ni ar y siwrne gyffrous yma i Gaerdydd am ddigwyddiad mwyaf y flwyddyn, Y GWOBRAU CLIC. Cychwynnom a mynd tuag at Wrecsam lle darganfûm gymar ar ein taith, Pudsey'r Arth. Pan gyrhaeddom Wrecsam, penderfynom fynd a Pudsey ar daith a ffilmio'r llefydd gwych roedd yn ymweld â nhw neu am ymweld â nhw. Y stop cyntaf oedd y toiledau yn Water World.
Parhaodd y daith i lawr i'r de i Gasnewydd, lle stopiwyd i gael bwyd yn McDonald's. Aethom yn ôl ar y bws i ddarganfod gallwn hacio'r orsaf radio. Parhaom gyda llawer mwy o stopio ar gyfer toiledau nes i ni weld Stadiwm y Mileniwm yn y pellter. Daeth yr awyrgylch yn gyffrous gan nad oedd neb yn gwybod beth i ddisgwyl o'r gwobrau.
Ar ôl cyrraedd yr hostel a mynd i'n hystafelloedd a gwisgo mewn dillad ffurfiol aethom i lawr y grisiau lle'r oedd ein harweinydd golygyddol gyda ffyn golau (glow sticks). Gwnaethom dennyn i Pudsey allan ohonynt ac addurno ein hunain i oleuo Caerdydd. Am hanner awr wedi pump, galwyd y tacsis ac aethom i'r dref tuag at yr Amgueddfa Genedlaethol.
Pan gawsom allan o'r tacsi gwelsom ein holl ffrindiau o'r penwythnosau preswyl cynt a ddim yn gallu credu faint o hetiau gwahanol gallem weld (thema'r noson). Gwyliom y perfformwyr syrcas tu allan wrth ddisgwyl yn nerfus. Dwi'n meddwl fod Pudsey yn nerfus hefyd.
Agorodd y drysau fel mynedfa i Narnia. Dangoswyd ni i'n seddi ac eisteddom i lawr. Roedd llawer mwy o fyrddau yn y neuadd fawr gyda nenfwd uchel iawn. Roeddwn yn eistedd nes i mi weld fod bwffe ar gael yno! Yna cafodd y rhybudd 5 munud ei gyhoeddi a dechreuodd Danial a Beth gyflwyno'r gwobrau.
Roedd cymaint o erthyglau a fideos gwych wedi'u cyflwyno, ond yn anffodus dim ond un enillydd gall fod. Yn nerfus, roedd pawb yn disgwyl i gael clywed eu categori nhw ac yn dyfalu beth fyddai'r gwobrau. Crys t oedd y trydydd a'r ail wobr a gwobr wydr hyfryd, hwdi a thaleb Amazon £50 oedd y wobr gyntaf. Disgwyliais i glywed fy nghategorïau a chafodd yr erthygl fwyaf doniol ei gyhoeddi. Ar ôl wythnosau o bawb yn rhoi statws ar Facebook yn dweud 'pleidleisia plîs', cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi. Fe ddes i yn ail, ond i mi roedd hynny yn llwyddiant a dwi'n falch iawn o bob CLICiwr arall yn y categori yno.
Cawsom gomedïwr ymlaen hanner ffordd drwodd. Roedd yn dda ac fe wnaeth ychydig o jôcs am hetiau a cafodd ei adnabod o fod ar Eggheads. Cawsom hyd yn oed araith gyffrous gan weinidog Llywodraeth Cymru. Yna cyhoeddwyd y gwobrau diwethaf. Roeddwn wedi synnu derbyn y wobr am 'newydd-ddyfodiad gorau'. I mi, dyma fy llwyddiant gorau yn fy mywyd.
Yna roedd hi'n amser i Eric Unseen chwarae i gloi’r noson o hwyl, rhoddion am ddim a ffrindiau. Fe wnaethom ychydig o ganeuon o'u halbwm. Aethom allan o'r neuadd fawr gorau dwi erioed wedi eistedd ynddi ac aethom drosodd i Ŵyl Y Gaeaf Caerdydd i weld y goleuadau a'r atyniadau cyn mynd yn ôl am yr Urdd i gysgu, cyn y siwrne hir yn ôl adref i Ogledd Cymru.
Nid aeth y siwrne adref fel roeddwn i wedi'i obeithio. Y bore hwnnw, cyn i ni fynd am daith o gwmpas Caerdydd, disgynnais o'r bync top a tharo fy mhen ar y llawr. O wel, dwi'n iawn!!










