Ymdopi Gydag Iselder
Gall iselder daro unrhyw un ar unrhyw amser. Nis oes arwyddion allanol i iselder sydd i'w gweld. Gall pobl sydd yn dioddef o iselder gael anawsterau yn y gwaith neu mewn bywyd bob dydd. Mae'r mwyafrif o bobl yn disgwyl i'r dioddefwr 'snapio allan ohono'; ond, nid yw mor hawdd â hynny.
Mae iselder yn salwch cyffredin iawn. Mae 20% o siawns gall rhywun gael episod o iselder yn eu bywyd. Mae merched yn ddwywaith mwy tebygol o gael iselder na dynion. Ond, nid yw dioddef o iselder yn wendid.
Mae nifer o wahanol symptomau sydd ynghlwm ag iselder, a gall y symptomau hyn barhau am wythnosau ac nid diwrnodau yn unig. Mae'r symptomau yn cynnwys straen, colli diddordeb ym mywyd bob dydd, blinder, colli hunan hyder, colli neu gynyddiad mewn chwant bwyd, osgoi pobl, teimlo'n anobeithiol a'r eithaf o feddwl am hunan laddiad. Gall pawb ar adegau gael un neu fwy o'r symptomau hyn, ond, nid yw'n wastad yn golygu dy fod di'n dioddef o iselder. Pam mae rhywun yn cael profiad o un neu fwy o'r symptomau hyn mae'n hawdd dweud "Dwi'n dioddef o iselder" pan weithiau maent yn dioddef y symptomau hyn am ychydig ddyddiau yn unig, tra mae symptomau iselder yn parhau am ychydig wythnosau.
Mae nifer o ffyrdd o ymdopi gydag iselder. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad wyt ti ar ben dy hun. Gall helpu i siarad gyda rhywun am sut wyt ti'n teimlo. Os wyt ti'n isel paid dioddef ar ben dy hun, mae yna bobl yn barod i helpu. Mae'n bwysig dy fod di'n gwneud y pethau ti'n mwynhau ac yn ceisio cadw'n positif. Mae cysgu yn bwysig iawn ac mae'n rhaid i ti beidio poeni am geisio cael i gysgu ac ymlacio dy gorff i helpu gyda chysgu. Gydag iselder mae pobl yn tueddu i gael meddyliau negyddol, ond gall hyn gael ei newid wrth feddwl yn bositif.
Os ydy rhywun ti'n adnabod yn dioddef o iselder, mae yna ffyrdd gallet helpu. Mae'n bwysig adnabod arwyddion iselder fel gallet helpu'r dioddefwr. Ceisio annog triniaeth i'r dioddefwr. Gallai fod yn fuddiol siarad gyda'r dioddefwr am eu teimladau a'u hemosiynau, a hefyd siarad gyda nhw am pam dy fod di'n poeni amdanynt. Ceisia esbonio i'r dioddefwr fod iselder yn gyflwr meddygol gall fel arfer gwella gyda thriniaeth. Gwna'n sicr dy fod yn datgan dy fod di'n barod i helpu'r dioddefwr fel eu bod nhw yn gwybod fod rhywun yn poeni ac nad ydynt ar ben eu hunain. Mae'n bwysig cydnabod unrhyw arwydd o iselder yn gwaethygu, os bydd hyn yn digwydd dylai cysylltu gyda doctor am help.
Cofia, os wyt ti'n dioddef o iselder neu yn adnabod rhywun sydd yn dioddef, ti ddim ar ben dy hun, mae grwpiau cefnogaeth gallai helpu.
Siarada Gyda Meic - www.meiccymru.org/cym/
Journeys - www.journeysonline.org.uk
C.A.L.L - www.callhelpline.org.uk/defaultW.asp
Calm - www.thecalmzone.net
Depression UK - www.depressionuk.org
Get Connected - www.getconnected.org.uk
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol - www.nyas.net
Mae mwy o erthyglau am iselder ar gael yma.







