Y Rheilffyrdd Esblygol
Cychwynnodd fy angerdd am drenau pan oeddwn oddeutu wyth.
Cychwynnais edrych ar y rheilffyrdd fel yr oeddent yn ôl yn yr 1960au a sut cafodd yr injan stêm cyntaf ei adeiladu.
Cafodd yr injan stêm cyntaf ei adeiladu gan Richard Trevithick, dyn Cymraeg o'r cymoedd wedi'i eni yn Ebrill 1771.
Pan adeiladodd yr injan roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pyllau glo. Roedd ganddo gyflymder uchaf o 5mya a'r siwrne gyntaf oedd ar hyd ffordd tram Gwaith Haearn Penydarren, ym Merthyr Tydfil yng Nghymru. Ond, roedd yn dod oddi ar y rheiliau drwy'r adeg!
Cafodd George Stephenson, dyfeisiwr Saesneg o Warrington, ei eni yn 1781. Adnabwyd ef fel "Tad Y Rheilffyrdd". Roedd ei injan gyda lled o 4 troedfedd neu 81/2 modfedd (1,436 mm), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y "Stephenson Gauge".
Bellach y medrydd (gauge) yma ydy'r un safonol ac yn cael ei ddefnyddio gan reilffyrdd dros y byd. Wrth i'r rheilffyrdd ddatblygu, roedd mwy o bobl wedi sylweddoli potensial y maes ac felly dyma Waith Stêm Darlington, yn gweithio gyda Nigel Gresley, yn adeiladu'r locomotifau 'Pacifics' a 'Jinty',
Ehangodd y rhwydwaith rheilffordd, ac adeiladodd Isambard Kingdom Brunel y bont rheilffordd gyntaf. Roedd y rhwydwaith rheilffyrdd yn llwyddiant a chafodd Stephenson y syniad o drosglwyddo pobl ar draws y rhwydwaith rheilffordd.
Wrth i'r rhwydwaith ddatblygu o wasanaeth cludo i gario teithwyr, daeth y locomotifau yn fwy sydyn. Dyfeisiodd Sir Nigel Gresley y Mallard, y locomotif stêm mwyaf cyflym i gael ei hadeiladu erioed. Torrodd record cyflymder byd gyda 125mya sydd yn parhau i fodoli heddiw.
Dros y blynyddoedd mae'r trenau wedi dod yn fwy datblygedig, yn gwneud defnydd o ddisel a'r injan hylosgiad i bweru'r trenau enfawr. Roedd yr oes stêm drosodd a nifer o'r locomotifau wedi gorffen eu hoes yn iard sgrap Dai Woodhams yn y Bari.
Bellach mae 'rheilffyrdd cadwraeth', fel y Rheilffordd Llangollen, yn dychwelyd i'r Bari i ddod â locomotifau'r gorffennol i mewn i'r presennol, yn adfer nhw i sicrhau nad yw'r hanes yn cael ei anghofio.
Tudalennau Trafnidiaeth











