Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Y Dirprwy Weinidog Dros Dai ac Adfywio yn agor siop sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ifanc

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 21/03/2011 am 10:20
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

Mae Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio yn y Cynulliad, wedi agor siop yn y Fflint, sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan bobl ifanc sydd, rywdro yn ystod eu bywydau, wedi bod yn ddigartref.

UnLtd yw enw’r siop yn y Fflint ac Us UnLtd. sy’n ei rhedeg, sef grwp o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Sefydlwyd y grwp ar ôl i Strategaeth Cefnogi Pobl 2010-2013 Cyngor Sir y Fflint sylwi bod bwlch mewn gwasanaethau; roedd angen creu cyfleoedd i bobl ifanc ddigartref fanteisio ar gyfleoedd i gael addysg, hyfforddiant a gwaith.

Un o nifer o grwpiau drwy Gymru yw hwn sydd wedi cael grant o £85,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon i hybu mentrau cymdeithasol i bobl ifanc ddigartref.

Mae’r grwp wedi bod gyda’i gilydd yn awr am 12 mis. Yn y pen draw, maent yn gobeithio agor canolfan lle gall pobl ddigartref ddod i gael cyngor a gwybodaeth ynghyd â chawod a dillad glân. Y bwriad hefyd yw agor caffi i’r cyhoedd i helpu i ariannu’r ganolfan a chynnwys ystafelloedd hyfforddi lle byddai Us UnLtd yn rhedeg y rhaglen Dysgu am Oes.

Fel rhan o’u hymgyrch i godi arian ar gyfer y ganolfan, agorodd y bobl ifanc siop UnLtd, ar Heol yr Eglwys, y Fflint. Cawsant yr uned gan Gyngor Sir y Fflint. Cafwyd cymorth hefyd gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.

Caiff siop UnLtd ei staffio gan y bobl ifanc sydd ynghlwm wrth y prosiect, ac maent yn gwneud hynny’n wirfoddol am ddwy sesiwn hanner diwrnod bob wythnos. Mae’r siop yn gwerthu crefftau a wneir â llaw, gan gynnwys gemwaith, bagiau a hetiau, a phobl leol sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r nwyddau.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, y Gweinidog dros Dai ac Adfywio:

"Cefais gyfle i gyfarfod â rhai o’r bobl ifanc yng Nghaerdydd y llynedd, a chafodd eu cynlluniau gryn argraff arnaf, felly mae’n bleser mawr i mi gael agor siop UnLtd yn swyddogol a gweld eu cynlluniau uchelgeisiol yn dwyn ffrwyth. Mae’n amlwg bod yr holl bobl ifanc sydd ynghlwm wrth y prosiect yn gwneud yn fawr o’r cyfleoedd a gawsant drwy’r prosiect i wella’u bywydau drwy ddysgu sgiliau newydd a chael profiad gwerthfawr.

Mae digartrefedd yn broblem sy’n effeithio ar bobl o bob oed ac o bob cefndir ac mae prosiectau fel hyn yn hanfodol i bobl ifanc gan eu bod yn eu helpu i ddelio â’r rhesymau dros ddigartrefedd ac i osgoi problemau yn y dyfodol. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud os bydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd a dyna pam rwy’n falch o gefnogi’r prosiect hwn a llawer o rai tebyg ledled Cymru."

Meddai’r Cynghorydd Carol Ellis, yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Cymdeithasol:

"Mae Us UnLtd. yn grwp ysbrydoledig o bobl ifanc sydd wedi wynebu anawsterau ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Mae’r siop UnLtd yn glod i’r grwp, sy’n gwirfoddoli i’w rhedeg. Mae’n siop hyfryd sy’n rhoi cyfle iddynt i gyd wynebu gwell dyfodol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Gweithredol dros Dai:

"Mae’n braf gwybod bod holl elw siop UnLtd yn mynd tuag at helpu’r grwp i gyflawni’u nod o sefydlu canolfan i’r digartref. Mae digartrefedd yn broblem wirioneddol drwy’r DU ac mae Us UnLtd yn mynd i’r afael â’r broblem mewn ffordd hynod gadarnhaol ac adeiladol."

Mae UnLtd ar Heol yr Eglwys ac mae ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 9.30am a 4.30pm.

 

Us UnLtd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.