Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Trydedd Ŵyl Farcuta Flynyddol Bagillt

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 20/07/2011 am 11:05
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Amgylchedd, Gwyl, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Yn Gymraeg

Mae’r gwynt yn codi! Ac mae hi’n bryd ar gyfer trydedd Ŵyl Farcuta flynyddol Bagillt, y Sul hwn 24 Gorffennaf, 10.30am - 3.30pm. Mae’r man cyfarfod o’r maes parcio yn Bettisfield.

Meddai Alistair Hemphill, Parcmon Arfordirol: “Dyma’r trydydd tro inni gynnal Gŵyl Farcuta Bagillt - roedd y ddwy flaenorol yn ddigwyddiadau llwyddiannus iawn felly rydym yn disgwyl pethau mawr gan yr un yma! Gellwch ddod â’ch barcut eich hun, prynu barcut neu wneud un. Bydd Tîm Cefn Gwlad Sir y Fflint yno i’ch helpu, a bydd ganddynt amryw o farcutiaid y gellwch eu prynu i’w hedfan - beth am inni weld faint yn union o farcutiaid y gallwn eu cael yn hedfan ar un amser!

“Bydd yna weithgareddau eraill yn ystod y dydd hefyd, fel gwneud bathodynnau. Gallech ddod â phicnic a gwneud diwrnod ohoni, gan grwydro’r safle adnewyddedig yma, sy’n cynnig llwybrau cerdded arfordirol gyda golygfeydd trawiadol dros Afon Dyfrdwy, neu wylio’r pysgotwyr lleol yn ymbaratoi ar gyfer eu taith nesaf i ddal pysgod lleol.”

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Ŵyl Farcuta Bagillt, gellwch ffonio Alistair Hemphill, Parcmon Arfordirol, ar 01244 814931.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.