Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Postiwyd gan kranenvuhurr o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 26/09/2011 am 10:36
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Amgylchedd, Hanes, Teithio, Yn Gymraeg

  • pont
  • pont2
  • pont3
  • pont4
  • pont5

English version

Mae Traphont ddŵr Pontcysyllte wedi'i leoli yng nghanol Llangollen dros Ddyffryn Dyfrdwy.

Wedi'i ddylunio gan Thomas Telford a'i adeiladu dan oruchwyliaeth William Jessop, mae'r Draphont efo cyfanswm uchder o 126 troedfedd a chyfanswm hyd o 1007 troedfedd.

Cafodd y draphont ei dylunio yn 1795 a'i gwblhau yn 1805. Pwrpas y draphont oedd cario nwyddau crai dros Ddyffryn Dyfrdwy i Gymru a Lloegr.

Roedd y bont yn cysylltu amryw bentref, ond y prif rai oedd pentref Froncysylltau a phlwyf Llangollen ar ben de'r bont. Neu fel adnabwyd yn lleol, tref gorff Cysyllte Llangollen, a dyma sut cafodd y bont ei henw, er yn Lloegr mae'r bont yn cael ei hadnabod fel 'the bridge of Cysyllte' yn gyffredin.

Mae'r bont yn cynnwys cafn haearn bwrw gyda lled o 11 troedfedd ac mae wedi'i leoli ar 18 colofn carreg galch, Mae'r morter wedi'i wneud o galch, dwr a gwaed bustach er mwyn dal y colofnau gyda'i gilydd. Cafodd y cafn haearn bwrw ei gynhyrchu yn Ffowndri Plas Kynaston, Cefn Mawr, a gafodd ei adeiladu yn arbennig ar gyfer adeiladu'r bont.

Roedd y cafn wedi'i ddal efo'i gilydd drwy dyllu gwastraff o'r ddaear oedd yn cynnwys plwm gwyn a gronynnau haearn. Roedd y cafn wedi'i wneud o fflans haearn. Dywedai William Jessop byddai'r deunydd a ddewiswyd yn dal am flynyddoedd i ddod, ond ni ragfynegwyd pa mor hir byddent yn parhau.

Mae athroniaeth Archimedes yn dweud fod cwch a'i llwyth neu bwysau màs yn gwthio cyfanswm cyfartal o ddŵr oddi ar y bont. Mae ochrau'r cafn yn codi tua chwe modfedd ac mae rheilen llaw mewn lle, Roedd hefyd llwybr tynnu ar gyfer tynnu cychod camlas gyda cheffylau.

Roedd y draphont hon yn dod ac ystyr cwbl newydd i'r camlesi yng Nghymru ac yn dod ac ystyr i etifeddiaeth o fewn y camlesi. Mae'r bont bellach wedi cael ei hagor i'r cyhoedd ac yn cael ei gadw gan Ddyfrffyrdd Prydain.

Mae'r draphont wedi'i lleoli ar Navigaton Road, Llangollen ac mae'n atyniad am ddim i'r cyhoedd, ond bydd angen pen da am uchderau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.