Talent FfM 2011
Talent FfM 2011 Oes gen ti dalent? Canu, dawnsio, chwarae offeryn, deud jôcs, jyglo? Hoffet ti ennill £150? Wel, dyma dy gyfle! Mae’r gystadleuaeth Talent FfM bellach yn ei bedwaredd flwyddyn. Mae’r gystadleuaeth talent ar agor i bobl ifanc rhwng 11 - 25 oed sy’n byw un ai yn sir Ddinbych, Y Fflint, Conwy neu Wrecsam. Ar ôl y rhagbrofion bydd cynrychiolwyr o bob sir yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol, lle byddent yn perfformio o flaen panel o feirniad sy’n enwogion o fyd teledu, llwyfan a cherddoriaeth. Bydd perfformwyr orau’r noson yn mynd adref hefo gwobr o £150, a theitl ‘Enillydd Talent FfM 2011’! I gael fwy o wybodaeth am sut i gystadlu, e-bostia :
talentffm@urdd.org






