Prosiect Draenogod yr Hydref – helpu i wneud Sir y Fflint yn lle delfrydol i ddraenogod!
Roedd y draenog yn arfer bod yn ymwelydd rheolaidd i’n gerddi, ond, dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae niferoedd draenogod wedi gostwng cymaint â 50% mewn rhannau o’r DU, ac mae’n ymddangos fel bod y gostyngiad yn parhau yng Nghymru ac yn Lloegr. Yr hydref hwn, rydym yn anelu i godi ymwybyddiaeth ynghylch gostyngiad y draenog yn Sir y Fflint trwy gysylltu â phrosiect stryd draenogod Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau Mewn Perygl (PTES), sy’n rhoi cyfle i bobl helpu draenogod yn eu cymunedau eu hun. Yn hanesyddol, mae’r draenog wedi ymgynefino mewn ardaloedd sy’n ffinio coetiroedd; ond dros y blynyddoedd maent wedi addasu i fyw yn hapus mewn cloddiau a gerddi. Mae ei enw Saesneg yn gyfuniad o’r cynefin hwnnw â’r swn mae’r draenog yn ei wneud wrth chwilio am fwyd ac am gymar. Y draenog yw un o’r tri mamal yn y DU sydd wir yn mynd i drwmgwsg; ynghyd ag ystlumod a llygod, bydd y draenog yn treulio chwe mis o’r flwyddyn mewn trwmgwsg, lle bydd curiad ei galon, tymheredd ei gorff a nifer yr anadliadau bob munud yn gostwng. Mae’r draenog yn famal nosol ac unig fel arfer, sy’n teithio hyd at un filltir bob nos i fwydo ar fwydod, chwilod, corynnod a malwod. Nid ydym yn deall yn iawn y rhesymau pam fod niferoedd y draenog wedi gostwng mewn ffordd mor ddramatig; mae yna nifer o wahanol ffactorau yn effeithio ar ddraenogod gwledig a threfol, ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod poblogaeth gyffredinol y draenog yn gostwng. Mae’r ffactorau sy’n effeithio ar ddraenogod yn cynnwys colli cynefin, colli cloddiau, llai o ffiniau caeau garw, cynefinoedd nad ydynt wedi’u cysylltu’n effeithiol, gerddi taclusach a ffiniau gerddi anhreiddiol. Cyngor da ar gyfer helpu draenogod: Peidiwch â defnyddio peledu malwod, gwiriwch bentyrrau pren a gwastraff gardd cyn llosgi, gosodwch lwybrau dianc o byllau dwr addurnedig, gadewch bentyrrau o bren neu ardal llai taclus yn eich gardd, gwiriwch wair hir neu lystyfiant cyn torri’r gwair, crëwch fynedfa/allanfa 15cm2 o dan ffens neu glwyd eich gardd. Beth rydym ni’n ei wneud? Trafod y sefyllfa gyda grwpiau ysgol/cymunedol: Os hoffech chi i Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint ymweld â’ch ysgol neu grwp cymunedol i drafod draenogod, cysylltwch â sarah.slater@flintshire.gov.uk. Mae’n bosibl cysylltu sesiynau ysgol gyda phynciau’r cwricwlwm. Mwy o wybodaeth: Os hoffech ganfod mwy am ddraenogod – yn cynnwys bwydo, gwella eich gardd, beth i’w osgoi – gallwn anfon gwybodaeth atoch yn electronig neu drwy’r post. Cysylltwch â ni ar y manylion isod. Yn ogystal, mae yna adnodd draenogod ar-lein yn http://www.cofnod.org.uk/. Ewch i’r wefan er mwyn cofrestru. Mae’n gyflym ac yn hawdd ac ar ôl i chi gofrestru, cliciwch ar ‘cofnodi rhywogaeth’ er mwyn cyrraedd yr adran ‘cofnodi draenog’ a llenwi ffurflen syml. Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynghylch bod yn hyrwyddwr draenogod a helpu eich stryd/cymuned i fod yn lleoedd mwy hwylus i ddraenogod, ewch i www.hedgehogstreet.org. Ffeithiau am ddraenogod: Pan gaiff draenogod bach eu geni, mae eu pigynau o dan eu croen, a bydd y pigynau yn dod i’r amlwg wedi pythefnos. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Slater, Swyddog Bioamrywiaeth Sir y Fflint: sarah.slater@flintshire.gov.uk, 01352 703263 Ffotograff o ddraenog – hawlfraint Nikki Charlton







