Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Preswyl Red Ridge CLIC

Postiwyd gan kranenvuhurr o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 13/09/2011 am 09:34
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Dawns, Addysg, Cerddoriaeth, Teithio

  • preswy

English Version

Dydd Gwener ddiwethaf ymunom â'n bws mini yn Sir y Fflint. Roedd taith hir o'm blaen i Ynys Môn cyn mynd am Y Trallwng.

Roeddwn wedi cynhyrfu'n fawr, ac roeddem yn ceisio ein gorau glas i gynhyrchu adloniant ein hunain ar y siwrne. Roedd y siwrne yn mynd yn grêt ac roedd pawb wedi cynhyrfu a methu disgwyl i gyrraedd am swper a chyfarfod gweddill CLIC. Ond yn anffodus cawsom 'ddamwain' bach ar y ffordd. Dywedodd ein gyrrwr bws byddai tynnu coes am hyn am hir.

Pan gyrhaeddom y ganolfan clustnodwyd ystafelloedd i ni a chawsom swper neis iawn (am fwyd preswyl). Yna aethom i fyny grisiau ar gyfer rheolau'r penwythnos.

Cofrestrwyd ar gyfer ein cymwysterau RhCA o ddewis o ysgrifennu creadigol, dyddiadur llun neu fideo 30 eiliad a chawsom hefyd y cyfle i olygu'r prosiect ar AppleMac. Er gosod amser gwely rhesymol roedd hi wedi 3 o'r gloch arnom yn cysgu.

Ar y dydd Sadwrn roedd hi'n ben-blwydd Tania CLIC, felly daethom at ein gilydd i ganu pen-blwydd hapus iddi a hefyd roedd anifeiliaid anwes y ganolfan efo ni. Cawsom frecwast a chael i mewn i'n grwpiau RhCA ble penderfynais greu dyddiadur lluniau am daith cerdded natur. Ar ôl casglu'r lluniau a golygu, roedd gennym fideo grêt o'n taith.

Yna gwnaethom ychydig o weithgareddau ar ôl cinio bwffe anhygoel – dringo creigiau, gwifren sip a hyd yn oed abseilio. Cawsom hefyd fforio ogofeydd artiffisial – mannau cul ac ogof mor ddu â bol buwch! Fe fwynheais yn fawr iawn. Yna i ymlacio ar ôl yr holl chwysu, gwnaethom ychydig o saethyddiaeth.

Amser te cawsom 'sgods a sglods' ac yna'r sioe 'Mae Gan CLIC Dalent' gorau erioed!!! Gyda fy nghanu ofnadwy nid yw'n syndod hi wedi glawio trwy'r  dydd Sul ar y ffordd gartref. Ond ar y nos Sadwrn ni aethom i'r gwely gan fod llawer o gampau direidus ac aros i fyny.

Ar y dydd Sul, paciwyd y bagiau a ffwrdd a ni i losgi ein prosiectau i ddisg fel y gallem eu gwylio ar y gliniadur a rhannu gyda'n grŵp. Cawsom hyd yn oed pop corn. Gwnaethom adolygiad o'r penwythnos a derbyn ein crysau-t CLIC.

Unwaith rydym wedi ysgrifennu ychydig mwy o erthyglu yna byddwn yn cael hwdi ac mae pawb mor gyffrous i wisgo nhw. Yna dywedwyd hwyl fawr i bawb, ac ar ôl stopio yn McDonalds aethom am gartref. Roeddem wedi blino'n lan.

Ychwanegodd Stonerfox:

"Mae hi o gwmpas 9 o'r gloch a dwi wedi blino cymaint. O wel. Mae'r preswyl yn agosáu at y diwedd felly byddwn yn gadael ein gilydd cyn hir, ond gobeithio byddwn yn cyfarfod eto :P Yr unig beth gallaf ddweud am y preswyl ydy ei fod yn anhygoel. Dwi erioed wedi cael gymaint o hwyl, diolch CLIC :D"

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.