NadoCLIC #10
Croeso i ffenestr #10 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia dan@cliconline.co.uk cyn gynted â phosib.
Mae pawb yn ymwybodol o'r Nadolig a'i ystyr. Ond, nid yw pawb yn gwybod cymaint am yr hanes. Oeddet ti'n gwybod fod genedigaeth Iesu Grist yn anhysbys? Yn fuan i ganol y bedwaredd ganrif yr Eglwys Gristnogol Orllewinol oedd y cyntaf i benderfynu ar y dyddiad o'r 25ain o Ragfyr, a chafodd hwn ei fabwysiadu wedyn gan y Dwyrain. Un damcaniaeth am y dyddiad hwn ydy ei fod yn union naw mis wedi cenhedliad Iesu Grist.
Mae nifer o draddodiadau modern sydd yn cynnwys rhoi anrhegion, cerddoriaeth, cyfnewid cardiau Nadolig, dathliadau'r eglwys a bwyd arbennig. Mae Sant Nicolas, Santa Clôs neu Siôn Corn yn gysylltiedig â dod ag anrhegion i blant ar gyfnod y Nadolig. Ac mae Cristnogion a rhai sydd ddim yn Gristnogol yn credu fod yr ŵyl wedi dod yn ddigwyddiad arwyddocaol. Mae bellach yn ddigwyddiad allweddol ar gyfer manwerthwyr a busnesau.
Un traddodiad sydd yn cael ei ddefnyddio adeg y Nadolig ydy addurniadau. Ond, beth ydy'r hanes tu ôl i pam rydym yn rhoi addurniadau i fyny? O gyfnod cyn Cristion, mae pobl yn y Deyrnas Rufeinig wedi dod a changhennau o blanhigion bythwyrdd i mewn yn y gaeaf. Roedd addurno gyda gwyrddlesni hefyd yn rhan o draddodiad Iddewig. Yn Llundain yn y 15fed ganrif daeth yn draddodiad Nadolig i bob tŷ gael ei addurno gyda dail y dderwen fytholrwydd, eiddew ac ati yn y lliw gwyrdd. Credir fod dail siâp calon yr eiddew yn symboleiddio Iesu Grist yn dod i'r ddaear. Roedd y gelynnen wen yn amddiffyn rhan paganiaid a gwrachod. Roedd draenen ac eirin coch yr eiddew yn cynrychioli'r Goron Ddraenen gafodd ei wisgo gan Iesu Grist ar ei groeshoeliad.
Yn Yr Almaen yn yr 1860au, ymddangosodd yr addurniad cyntaf i gael ei gynhyrchu yn fasnachol, gafodd ei ysbrydoli gan y cadwyni papur oedd yn cael eu gwneud gan blant. Mae'r geiriau Saesneg "Christmas tree" wedi'i gofnodi gyntaf yn 1835 ac wedi dod o'r iaith Almaeneg. Credir fod y traddodiad coeden Nadolig modern wedi cychwyn yn Yr Almaen yn y 18fed ganrif er byddai rhai yn taeru mai Martin Luther King gychwynnodd y traddodiad yn y 16eg ganrif. Mae rhai esiamplau o addurniadau modern yn cynnwys clychau, canhwyllau, ffon candi, hosan a thorch. Mae Torchau a chanhwyllau yn cael eu rhoi mewn ffenestri yn draddodiadol y dyddiau hyn.
Un rhan arwyddocaol o'r Nadolig ydy'r broses o roi anrhegion. Y dyddiau hyn, y broses o roi anrhegion ydy prif ran Nadolig. I fusnesau a manwerthwyr mae'r Nadolig yn wyliau proffidiol. Oeddet ti'n gwybod yn y Canol Oesoedd fod y broses Nadolig wedi'i wahardd gan yr Eglwys Gatholig oherwydd y ddrwgdybiaeth ei fod yn dod o gychwyniad paganaidd? Yn hwyrach ymlaen cafodd ei resymoli gan yr Eglwys ar sail ei fod yn cysylltu'r Sant Nicolas gyda'r Nadolig, a bod yr anrhegion o aur, thus a myrr gadodd ei roi i'r baban Iesu gan y Doethion Beiblaidd.
Mae'r Nadolig wedi bod yn bwnc llosg sy'n achosi dadl ac mae hyn yn parhau hyd heddiw. Yn yr Unol Daleithiau mae tueddiad i newid y "Merry Christmas" i "Happy Holidays". Yn fis Tachwedd 2009, cefnogodd y llys apeliadau ffederal yn Philadelphia penderfyniad un cylch ysgol wahardd canu carolau Nadolig.
Heddiw prif ffocws y Nadolig ydy rhoi anrhegion. Mae nifer o bobl yn colli gwir ystyr y Nadolig a bydd y mwyafrif o bobl yn gwybod ychydig iawn am hanes ein traddodiadau. Mae'n gwneud i mi feddwl beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. A fydd pobl yn colli ystyr gwir y Nadolig yn gyfan gwbl? Fydd tymor y Nadolig yn dod yn fwy drud ac yn fwy masnachol?
Sut wyt ti'n meddwl bydd Nadolig y dyfodol, gad sylwad isod?
Wyt ti'n ysgrifennydd, ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, blogiwr, bardd neu'n greadigol yn gyffredinol sydd efo rhywbeth i ddweud am y Nadolig? Wel, e-bostia sam@cliconline.org.uk i gael cyfle i gael ffenestr NadoCLIC dy hun nawr a chyfle i ennill Nintendo 3DS!







