Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Maes Y Gad

Postiwyd gan kranenvuhurr o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 18/09/2011 am 16:41
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Addysg, Hanes, Technoleg, Teithio

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4

English version

Wedi'r erthygl ddiwethaf i mi gyflwyno mae pobl wedi gofyn am fwy, ac roedd hi'n od i mi i ymweld ag amgueddfa rhyfel mewn dinas leol nid yn bell oddi wrthyf yn Gaer.

Un peth oedd yn diddori fi oedd nad oedd llawer o hanes y tanc ar gael. Dwi wedi penderfynu nawr i chwilio mwy i mewn i hanes magnelau a'r hanes datblygol drwy ryfeloedd ein hamser.

Cychwynnodd y tanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf lle roeddent yn cael eu defnyddio amddiffyn y ffosydd gan fod y tanciau wedi'u hadeiladu ar gyfer tir o unrhyw gyflwr. Roedd hyn yn gychwyn oes newydd o beiriannau ac yn symud rhyfela peiriannau i lefel newydd.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd roedd tanciau wedi datblygu'n fwy ar gyfer y frwydr a chafodd mwy eu creu ar gyfer y rhyfel. Yna daeth y Rhyfel Oer ble gwelwed uchafbwynt y tanc; roeddent yn fwy o danc ar gyfer pob pwrpas.

Roedd y Prosiect Levavasseur yn brosiect buan oedd fu'n chwyldro i Ffrainc gan mai dyma oedd y dyluniadau sylfaenol buan ar gyfer y tanc. Yn 1903 roedd Levavasseur ar draciau ymlusgo ac efo injan marchnerth o 80 a chafodd ei ddisgrifio fel y tanc cyntaf i chwyldroi hanes.

Ond ffaelodd Levavasseur wrth iddo glywed yn 1908 ar ôl i'w brosiect gael ei adeiladu fod peiriannydd Saesneg o'r enw Hornsby wedi adeiladu tanc gelwir yn dractor, ond hefyd yn cystadlu i adeiladu tanc oedd tad y tanciau yn gyffredinol, Estinne, a adeiladodd tanc yn debyg iawn i'r Levavasseur er nad oedd yn ymwybodol o'r prosiect Levavasseur.

O gysidro'r tanciau a ddefnyddir yn y Rhyfel Byd Cyntaf dim ond yn hwyr i mewn i'r rhyfel gwelwyd y tyred oedd yn troi. Gelwir hwn hefyd fel y Char Renault FT. Ond roedd y tanc yma efo nifer o enwau ac mae'r tyred gwn saethu SA18 bellach yn sefyll yn Amgueddfa Brwsel.

Mae llawer iawn mwy gallaf ddweud wrthyt ti am danciau a'r chwyldroadau, ond roedd llawer mwy o gynhyrchwyr o amgylch y byd cyfan.

Yn y 21ain ganrif gwelwyd newid mawr wrth i fetel gryfhau a thanciau ddod yn fwy a mwy o electroneg gael ei ychwanegu. Dros y blynyddoedd mae'r nifer o danciau sydd yn cael eu cynhyrchu wedi cael ei dorri lawr, ond roedd Rwsia a'r Ukraine yn ceisio gwerthu tanciau i India a Phacistan.

Mae tanciau angen cael eu hamddiffyn oddi wrth grenâd gyrrwyd gan roced (RPGs) neu daflegryn felly cawsant gynnau peiriant i'w hamddiffyn fel ail amddiffyniad. Roedd angen comander i weithio'r gwn peiriant felly cyflwynwyd cysgod gwn ond nid oedd hyn yn datrys y broblem yn gyfan gwbl, felly cyflwynwyd gynnau peiriant rheolaeth bell adnabuwyd hefyd fel CROWS (Common Remotely Operated Weapons Station).

Nawr mae tanciau wedi symud ymlaen. Mae gennym danc adnabuwyd fel y M60A1 cerbyd arfog lansio pont. Mae'r anghenfil enfawr yma yn darparu pont i danciau a cherbydau eraill basio afonydd neu ffosydd. Mae ganddo hefyd gynnau peiriant a delweddu thermal fel cerbyd cefnogaeth.

Fy nghrynodeb

I grynhoi'r erthygl yma dwi wedi dod i'r canlyniad na fyddem byth ar ben ein hunain mewn unrhyw frwydr neu ryfel tra mae technoleg yn symud yn ei flaen. Ond, gallwn weld y gwaith sydd yn ymglymedig â gweithio tanciau o fewn y fyddin.

Er bod yr arian sydd yn cael ei roi i mewn i danciau'r fyddin yn gallu bod hyd at 120 miliwn o ddoleri gyda'r holl offer ac electroneg. I mi mae gweld datblygiad yng nghryfder y traciau a chyflymder y tanciau yn rhan o'r hanes a'r dyfodol.

Hefyd mae'n wych meddwl faint o bobl gall ffitio i mewn i le mor gyfyng. Mae llawer o danciau eraill ar gyfer gwahanol swyddi, fel y llong ysgubo ffrwydron sydd yn dinistrio ffrwydron-tir, a hyd yn oed tarw dur i dynnu rwbel neu goed.

Er bod llawer mwy am danciau, byddai'r erthygl hon yn troi i mewn i lyfr, ond plîs cadwa olwg allan am fwy neu gad sylwad os oes mwy o wybodaeth gallaf ddarganfod gennych chi i gyd. Diolch.

Erthyglau Perthnasol
Annwyl Fyd – Rhyfel
Rhyfel

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.