Iechyd Da, Gofal Da yn Sir y Fflint 2011 – 2014
Ymgynghoriad
Mae Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir y Fflint yn ymgynghori ynghylch ei drydedd strategaeth ar hyn o bryd, sef Iechyd Da, Gofal Da yn Sir y Fflint.
Gofynnir am farn aelodau’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol am amryw o gynigion i wella iechyd, gofal cymdeithasol a lles trigolion lleol.
Y dyddiad cau ar gyfer atebion yw 31 Rhagfyr 2010
Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael trwy glicio ar y ddolen neu gallwch wneud cais am y ddogfen ar ffurf e-bost neu gopi papur trwy anfon e-bost at GoodHealthTeam@flintshire.gov.uk neu trwy ffonio 01352 702536.
Iechyd Da, Gofal Da yn Sir y Fflint 2011 – 2014






