Gwobrau Balchder Sir y Fflint 2012 – dathlu llwyddiant plant
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, wedi canmol seremonïau gwobrwyo ‘Balchder Sir y Fflint’, a drefnir gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Cyngor Sir y Fflint. Cynhaliwyd y digwyddiadau yng ngwesty’r Springfield, Treffynnon yn ddiweddar, i ddathlu llwyddiannau a chyflawniadau niferus plant y gofelir amdanynt gan y Cyngor a phobl ifanc sy’n gadael y system ofal. Enwebwyd y plant a’r bobl ifanc gan ofalwyr maeth, rhieni a gweithwyr cymdeithasol mewn nifer o gategorïau, gan gynnwys: Nid yn unig y cafodd y plant a’r bobl ifanc eu canmol am eu cyflawniadau ond hefyd am eu hymdrechion. Roedd gwobrau penodol yn cael eu cyflwyno hefyd am waith caled a chyflawniadau rhagorol pobl ifanc sy’n gadael y system ofal. Canmolwyd eraill am eu cynnydd ardderchog yn yr ysgol, am gymryd rhan mewn gweithgareddau drama ar ôl ysgol a chyflawni canlyniadau rhagorol yn y coleg. Roedd y seremonïau’n cynnwys perfformiadau cerddorol gan y plant ac fe’u mwynhawyd yn fawr iawn gan bawb a oedd yn bresennol, gan gynnwys plant, rhieni, gofalwyr maeth a staff o’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, wedi mynychu’r digwyddiad bob blwyddyn ers tair blynedd, ac meddai: "Mae Gwobrau Balchder Sir y Fflint yn gwella bob blwyddyn. Unwaith eto, sêr y sioe oedd y plant a’r bobl ifanc sydd wedi cyflawni pethau mor wych. Mae’n hawdd anghofio ambell waith pa mor bwysig yw rôl rhieni maeth, eiriolwyr, gweithwyr cymdeithasol neu rieni corfforaethol. Gydag aelodau’r teulu, mae’r cymorth a roddir yn helpu pob plentyn ac unigolyn ifanc i gyrraedd ei lawn botensial. Fel Comisiynydd Plant, mae bob amser yn bleser o’r mwyaf gweld canlyniadau’r gwaith caled y mae pawb wedi’i wneud ac rwy’n edrych ymlaen yn barod at wobrau'r flwyddyn nesaf!" Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Roeddwn mor falch o gael bod yn rhan o wobrau Balchder Sir y Fflint. Mae’r plant a’r bobl ifanc, ynghyd â’u gofalwyr, yn ysbrydoliaeth fawr. Roedd pawb a enwebwyd neu a dderbyniodd wobr yn haeddu hynny. Roedd yn fraint cael cymryd rhan." Hoffai’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant ddiolch i fusnesau lleol am eu cymorth gan gynnwys: Gwesty’r Springfield, Unite the Union yn Airbus, Lindop Toyota Queensferry, Wendy’s Balloons, Ok Diner, Amgueddfa’r Beatles, Canolfan Sglefrio Glannau Dyfrdwy, Chwaraeon Queensferry, WH Smith Brychdyn, Tesco Brychdyn, Canolfan Bowlio Deg y Fflint.








