Grilio’r Hostages
Wyt ti wedi darganfod The Hostages eto?
Oes unrhyw beth hoffet ti ofyn i'r band Cymraeg sydd ar gwsb enwogrwydd?
Ond i gychwyn, oeddet ti yn Frwydr Y Bandiau CLIC 2010?
Cafodd y rownd derfynol ei gynnal yn Lolfa’r Arlywydd yn Stadiwm y Mileniwm fis Medi, lle'r oedd pum band oedd wedi cael eu dewis o restr hir drwy bleidlais ar-lein yn cystadlu am y goron.
Roedd y barnwyr yn cynnwys cyn gitarydd Funeral For A Friend, Darran Smith, a prif ddyn Exit International, Scott Lee Andrews.
Dim ond un enillydd gallai fod, fel mae’r cliché yn ei ddweud, a The Hostages oedd y rhain, pedwar o Raeadr yng Nghanolbarth Cymru.
Roedd rhestr gwobrau’r band yn cynnwys amser recordio yn Stir Studios trwy garedigrwydd CLIC, sesiwn tynnu lluniau proffesiynol gyda Alex Mills, gwneud fideo gyda Burning Red, a hyd yn oed bagiau nwyddau hyfryd Blue Banana.
Mae hyn i gyd (heblaw am y bagiau nwyddau dwi’n tybio) wedi cyfrannu tuag at ryddhau eu sengl gyntaf, Rolling Circus, sydd allan dydd Llun 21 Mawrth, ac yn dod gyda fideo eithaf ‘twisted’ gyda chlown eithaf ‘twisted’.
Hoffwn hyrwyddo’r sengl yma lot a helpu’r hogiau gychwyn ar y ffordd i’r gogoniant o fod yn brif fand ar lwyfannau’r gwyliau fel maent yn haeddu, ac wythnos nesaf byddwn yn cyhoeddi cyfweliad gyda nhw.
Ond hoffwn gael cymorth gyda’r cwestiynau. Beth hoffet ti ofyn i'r band? Croeso i unrhyw gwestiwn (o fewn rheswm!). Postia dy sylwad fel cwestiwn isod, neu e-bostia fo i ryan@cliconline.co.uk, a bod yn rhan o chwyldro cerddoriaeth Canolbarth Cymru.
www.thehostages.co.uk
DELWEDDAU: www.alxmls.com








9 Comments – Postiwch sylw
Tyezer
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 14th March 2011 - 23:15pm
Cwl!
Y Gorau yn y Byd
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:14am
Neisneis.
missbieberxxx
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:18am
BEDWR
Gruffudd Rhys Thomas
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:18am
pwy yw'r pobl yma, scarlets am byth.
helo
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:22am
cwlio ;D
Gruff Harries3
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:23am
Gruff Harries ydw i:)
Fantastic324
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:23am
Gruff Harries
Cer i ffwrdd Gruff Thomas, sneb yn hoffi'r scarlets
Fantastic324
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:27am
rydw i'n sgwennu i weud sori am fy ngeiriau ynghynt
:(
gruffharries2
Rhoddwyd sylw 26 mis yn ôl - 15th March 2011 - 10:29am
pwy yw fantastic234 ? xx