Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Fforwm Ieuenctid y Sir yn cael ei gydnabod am ei waith i frwydro yn erbyn benthycwyr arian didrwydded

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 14/12/2012 am 11:59
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • *
  • *

Mae Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint wedi ennill teitl Eiriolwyr Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru 2011/12, ynghyd â Phartneriaeth Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o holl gymdeithasau tai gogledd Cymru.

Mae’r wobr yn cydnabod ei waith yn codi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n gysylltiedig â benthycwyr arian didrwydded. Diolch i’r Fforwm, mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru bellach wedi cael cronfa a grëwyd yn arbennig i gynnig cymorth ariannol byrdymor mewn argyfwng i bobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i fenthycwyr arian didrwydded.

Meddai Alison Thomas, o Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint:

"Daeth y syniad mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Fel rhan o’r digwyddiad, perfformiodd y Fforwm ddrama fer am beryglon benthycwyr arian didrwydded ac yn ddiweddarach cynigwyd £200 i ni fel diolch. Gwrthodom y cynnig ac awgrymu fod yr arian yn mynd tuag at gefnogi’r dioddefwyr - a dyna sut ddechreuodd y cyfan."

Sefydlwyd y Gronfa Cymorth i Ddioddefwyr Benthycwyr Arian Didrwydded gyda chymorth Cymdeithas Tai Wales and West, a denwyd bron i £2,500 o roddion cyn i’r gwaith o’i reoli gael ei drosglwyddo i Safonau Masnach Caerdydd ar ddechrau 2012.

Meddai Les Cooper, o Gymdeithas Tai Wales and West:

"Rydym yn hynod falch o allu cynorthwyo gwaith ardderchog Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint ac mae’r wobr hon yn un haeddiannol iawn wir. Mae benthyca arian anghyfreithlon yn bla ac yn fygythiad parhaus i gymaint o bobl yng Nghymru heddiw. Mae Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint wedi dod â chreadigrwydd ac egni i’r frwydr yn erbyn y benthycwyr arian hyn, yn ogystal â mewnwelediad gwerthfawr i feddylfryd pobl ifanc heddiw."

Derbyniodd y ddau fudiad eu gwobr gan Sandy Mewies AC, mewn seremoni a gynhaliwyd yn ddiweddar, lle cyflwynwyd siec o £1,000 i’r Fforwm hefyd i’w helpu i barhau â’u gwaith yn hyrwyddo’r frwydr yn erbyn benthycwyr arian didrwydded yn eu cymunedau. Rhoddodd Sandy Mewies £50 i’r Fforwm ar y diwrnod hefyd, ac fe roddodd y Fforwm yr arian hwnnw yn syth yn ôl i’r gronfa dioddefwyr benthycwyr arian didrwydded.

Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg yng Nghyngor Sir y Fflint:

"Llongyfarchiadau i Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint, nid yn unig am ennill y wobr, ond hefyd am y gwaith caled y maent wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â benthycwyr arian anghyfreithlon. Mae’n hanfodol ein bod yn helpu pobl ifanc i ddeall y peryglon a sut i osgoi mynd i gymaint o ddyled. Mae’r mater hwn yn dal i fod yn uchel ar yr agenda i’r Fforwm ac rwy’n sicr y bydd yn dal i wneud popeth y gall i drosglwyddo’r neges, nid yn unig i bobl ifanc, ond i bobl o bob oedran."

******************************************************

Grwp o bobl ifanc a gefnogir gan Gyngor Sir y Fflint yw Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint sy’n cynrychioli llais pobl ifanc ar lefel leol a chenedlaethol. Maent yn cyfarfod â phenderfynwyr gan gynnwys y rheiny yn y Cyngor a Llywodraeth Genedlaethol i drafod materion sy’n cael effaith ar fywydau pobl ifanc, ac i greu newidiadau.

Mae Partneriaeth Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Cymdeithas Dai yng ngogledd Cymru, sef:

• Cartrefi Conwy

• Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

• Cymdeithas Gymunedol Gwynedd

• Cymdeithas Tai Clwyd

• Cymdeithas Tai Eryri

• Cymdeithas Tai Gogledd Cymru

• Cymdeithas Tai Wales & West

Gellir gwylio DVD ar wefan yma

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50