Fflah Mob
Fflah Mob Dydd Sadwrn 23 o Orffennaf yn y Fflint - Ar gyfer pob oed
Beth ydi Fflash Mob?
Fflash Mob ydi grwp mawr o bobl o bob oed sydd yn ymgynnull yn sydyn mewn lle cyhoeddus ac yn perfformio dawns am gyfnod byr ac yna yn chwalu. Maent yn hynod o hwyl ac wedi cael eu cynnal ar draws y byd ac rydym yn dod a Fflash Mob i Fflint dydd Sadwrn y 23 o Orffennaf 2011!
Byddwn yn falch petaech yn cymeryd rhan yn y digwyddiad gwefreiddiol, arbennig, cyfrinachol yma sydd wedi ei drefnu fel rhan o ddathliadau Crocheni a Ffwrneisi yr Olympiad Diwylliannol.
Rydym eisiau tadau, mamau, plant, cyfeillion a theuluoedd i gymeryd rhan! Felly dewch i roi tro arni yn yr ymarfer ar dydd Gwener y 22 o Orffennaf a o 6.30-8.00yh a dydd Sadwrn 23 o Orffennaf am 10.00-11.30yb yng Nghanolfan Chwaraeon y Pavilion yn y Fflint (mae rhaid eich bod yn gallu dod i’r ddau ymarfer).
Bydd perfformiadau o’r Fflash Mob yn digwydd ar dydd Sadwrn y 23 o Orffennaf 2011! Am 12.00yp ac am 1.00yp mewn lleoliad cyfrinachol yn y Fflint. Byddwn yn egluro manylion am y diwrnod yn yr ymarfer. Edrychwn ymlaen eich gweld yn yr ymarfer Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle cysylltwch a: Gwenno Jones ar 01352 702471






