Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ennill DVDs Chwaraeon

Postiwyd gan Gareth CLIC o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 06/12/2011 am 17:06
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Pobl, Chwaraeon a Hamdden

  • dvd

English version

Mae gennym ni rywbeth neis i chi bobl hyfryd.

Yma ar CLIC rydym wedi llwyddo cael ein dwylo ar ddau DVD chwaraeon, un Robbie Savage: Football Howlers, a'r llall, Matt Dawson's Rip Roaring Rugby, y ddau yn rhyddhad newydd sbon gan Revolver Entertainment.

Mae'r ddau yn syniad grêt am anrhegion Nadolig, ac mae tri chopi o bob un ar gael.

Yn Robbie Savage: Football Howlers, mae'r pêl droediwr a'r cyflwynydd radio Robbie Savage yn siarad ti drwy'r gwallgofrwydd o'r byd pêl droed. Gyda' arddull dim lol, mae'r DVD yma efo'r cwbl, o fethion erchyll i chwaraewyr yn mynd yn wallgof.

Mae'r cyn chwaraewr Cymru yn ychwanegu i'r adloniant gan rannu ei farn ar yr helynt wrth dderbyn pa mor ofnadwy gall rhai pobl broffesiynol fod ar adegau. Heb amheuaeth, Robbie Savage: Football Howlers ydy DVD pêl droed y flwyddyn.

Ond, beth am y gêm hyfryd o rygbi? Wel, mae'r cyn chwaraewr rygbi Lloegr Matt Dawson yn delio gyda hyn yn ei ryddhad newydd, Matt Dawson's Rip Roaring Rugby. Wedi'i ffilmio yn stadiwm Twikenham mae Matt Dawson yn cofio'r adegau gorau yn rygbi'r undeb, o'r taclo caletaf i'r chwaraewyr gorau erioed.

Mae'r DVD awr o hyd yn llawn clipiau o gemau'r gynghrair a rhai rhyngwladol, gan gynnwys buddugoliaethau Lloegr yn y gystadleuaeth Tair-Cenedl. Yn sicr mae'r DVD hwn yn un na fydd yr un ffan rygbi eisiau colli.

Nawr ta, sut wyt ti'n gallu ennill un o'r DVD's eithaf hyfryd yma? Wel, yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy e-bostio golygydd CLIC Ryan ar ryan@cliconline.co.uk gyda'r ateb i'r cwestiwn canlynol"

C: O ba sir yng Ngogledd Cymru mae Robbie Savage?

A dyna ni. Dyddiad cau dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011. Pob lwc!

Tudalennau Chwaraeon a Hamdden

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.