Ein Hanes Facebook
Cychwynnodd popeth y noson honno pan gyrhaeddom adref ac roedd pobl yn dechrau llwytho lluniau'r preswyl i Facebook.
I gychwyn dim ond un neu ddau hysbysiad gawsom. "Ti wedi cael dy dagio". "Mae sylwad newydd wedi'i bostio"… y pethau arferol.
Roedd y llwyth cyntaf yn eithaf arferol: lluniau ffôn camera ohonom yn bwyta brecwast ac yn eistedd ar y bws. Ond erbyn nos Lun roedd y lluniau swyddogol wedi mynd i fyny a chafodd gwir haprwydd y preswyl CLIC ei amlygu i weddill y byd: gwisg ci, mwgwd llysiau, gwifren sip, ciosg ffôn cynhanesyddol, y ci mawr yn hympio coes Callum… a dim ond y llun cyntaf oedd hwnnw!
Yn sydyn roedd yr hysbysiadau Facebook yn llawer mwy aml. Roedd y mwyafrif ohonynt yn bobl yn gweld y lluniau od ac yn gofyn "Pa bryd gafodd hwn ei dynnu?" neu "Be DDIAWL dwi'n wneud?!?" Yn lle cael atebion gan y staff CLIC, darganfyddom fod ymateb i e-bost hysbysiad yn postio'r e-bost yna i Facebook – a gan fod y staff i gyd efo'u hymateb "allan o'r swyddfa" ymlaen roedd pawb yn cael llwyth o sylwadau Facebook oedd yn dweud "Rwyf allan o'r swyddfa ar hyn o bryd". Roedd hyn yn flinedig iawn gan nad oedd posib cael gwared ohonynt, ond yn lwcus fe ddywedodd Dan CLIC wrth y lleill eu bod nhw'n drallodus. Unwaith daeth Lola CLIC i'n hachub ni rhag cael ein heclo gan negeseuon awto roeddem yn gallu darganfod fod mwyafrif y lluniau doniol yn rai o bobl yn ceisio canu.
Er, nid oedd hynny yn ddigon i stopio'r hysbysiadau Facebook diddiwedd.
I gychwyn y lluniau grŵp oedd y rhai mwyaf trallodus gan fod pawb wedi cael eu tagio ynddynt, ac roedd rhai pobl yn dechrau cael trafodaeth yn y sylwadau. Roeddwn yn edrych yn fy e-bost i ddarganfod fod dros 50 o e-byst i gyd gan Facebook! O’r diwedd arafodd hynny. Yna, am ryw reswm fedrai ddim deall, cafodd y llun yma 298 o sylwadau!
Cychwynnodd y sylwadau fel jôc am berthynas gor-gyfeillgar Callum efo'r ci yna, ond wrth i'r sylwadau barhau daethant yn fwy ac yn fwy swrreal. Cymaint fel fy mod wedi ceisio rhoi'r holl beth at ei gilydd i mewn i stori (rhybudd: nid yw'r stori hon yn gwneud unrhyw synnwyr).
Ein Hanes Facebook
Wedi'i selio ar stori wir.
Yn eistedd gartref ac yn chwarae ar Facebook mae Victoria yn penderfynu gwneud pop corn. Ond mae Jazmin, o gyfrifiadur ei hun, yn seibyr-slapio Vicky ac yn dwyn ei phop corn. Yn anrhyfeddol mae Victoria yn dial trwy gymryd llond llaw yn ôl. Yn y cyfamser, yn ystod y ffrae bitw yma, mae Victoria yn dweud fod y llun o ci-caru-coes Callum yn edrych yn cŵl. Wel byddai Victoria yn dweud hynny, ond dydy Danial ddim efo amynedd gyda phop corn ac yn dod i mewn i Facebook gyda bag mawr o Maltesers ond mae Jess yn teimlo cenfigen ac yn awgrymu ei bod hi'n gaeth i siocled, gan wneud i Danial deimlo mor euog fel ei fod yn rhoi'r siocled iddi ac yn mynd i chwilio am hen baced o Haribo sydd yn sownd yn waelod ei fag.
Mae yna deimladau o wrthdaro dealladwy oherwydd yr holl siwgr da, ond yna mae Jazmin yn sôn am het gyda chlustiau. A, wel… het gyda chlustiau! Mae Jess yn ffrwydro gyda chynnwrf. Mae'r trend newydd yma yn dod mor fawr fel nad all neb ganolbwyntio ar eu gwaith cartref. Mewn gwirionedd nid oedd Jess wedi bod yn canolbwyntio ar ei gwaith cartref o gwbl; roedd hi wedi cyfaddef i dreulio'i holl amser yn chwilio am 57 cath.
Roedd Jazmin rhyw sut yn teimlo wedi'i gorlethu ar ôl meddwl dylai wneud ei gwaith cartref a, wel, fedrai ddim helpu ond pendroni sut lwyddodd Jess i golli 57 o gathod (eithaf od i golli ei chathod ac nid yr het, ti ddim yn meddwl?) Danial: mae'n greulon i ti ddweud dy fod wedi darganfod 56 o gathod o dan dy wely ar ôl i Jess fod yn chwilio am rai hi? A beth ddigwyddodd i gath rhif 57?
Ar ôl hyn i gyd mae'r pwnc yn dychwelyd i'n preswyl yn Ynys Môn. Rhyw sut dwi ddim yn meddwl bydd y gyrrwr bws yna byth yn anghofio'r daith. Yna daw'r stori o'r stori blant gorau gafodd ei ddweud: Y Gath Yn Yr Het.
Wel, dwi yn dal i wylio'r ffilm. Disgwyl, fedra i ddim cofio pa bryd wnes i ddiwethaf. Ond mae'r banshee oedd ar ôl y cathod wedi ceisio mynd a nhw i fyny i'r Nefoedd ond roedd yn rhaid i Jazmin gael ysgol i ddringo fyny atynt.
Ar y pwynt yma dwi'n stopio ac yn meddwl: pam fod gennym ddychymyg mor od wrth adael sylwadau ar yr un llun Facebook yma? Ydym ni wedi cael ein goresgyn gan ddynion bach y gofod? Bob tro byddwn yn rhoi ein cyfrifiaduron ymlaen ac yn edrych yn ôl ar yr un llun yna mae'r sylwadau yn sbarduno rhywbeth hudol yn ein dychymyg a'n proses meddwl. Neu efallai mai fez Jess sydd yn llygu ein hymennydd? Mae'n debyg na fyddem byth dim callach.








