Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Disgybloin yn dysgu sut i fod yn berchnogion cŵn cyfrifol

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 23/06/2011 am 13:04
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • sealand
  • drury

Mae disgyblion ledled Sir y Fflint wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai i ddysgu sut i fod yn berchnogion cwn cyfrifol, ac i ddysgu am y gyfraith mewn perthynas â baw ci.

Cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Orchymyn Cwn yn y Sir ym mis Rhagfyr 2009. Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru i addysgu perchenogion cwn am y gyfraith ac i’w dirywio os nad ydynt yn clirio baw eu cwn.

Mae’r bartneriaeth yn credu mai’r unig ffordd o atal baw ci yn y sir yn yr hirdymor yw drwy addysgu’r cyhoedd a’u dirwyo os na fyddant yn cadw at y gyfraith. O gofio hynny, trefnwyd cyfres o weithdai a gaiff eu cyflwyno mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Cwn.

Dyma’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn: Ysgol Iau Brychdyn, Ysgol Gynradd Drury, Ysgol Licswm, Ysgol Nannerch, Ysgol Sealand, Ysgol Terrig, Ysgol Treuddyn ac Ysgol y Llan, Chwitffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson, yr Aelod Gweithredol dros Hamdden a Diogelu’r Cyhoedd:

"Rydym yn awyddus i danlinellu’n neges na fyddwn yn goddef baw ci o gwbl.

"Mae’r gweithdai hyn i ysgolion wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan greu amgylchedd dysgu rhyngweithiol, llawn hwyl i blant ddysgu am y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar gi, a phwysigrwydd clirio ar ei ôl.

"Credwn fod plant yn ‘byw’n ôl yr hyn a ddysgant’ a gobeithio y byddant yn sôn yn y cartref am yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn y gweithdai, ac yn cofio’r negeson ar hyd eu hoes."

Rhowch wybod i’n gwasanaeth wardeniaid cwn am unrhyw achosion o faw ci drwy ffonio 01352 703366 neu drwy anfon e -bost at: dogfouling@flintshire.gov.uk; ga nodi amseroedd, lleoedd ac enwau os oes modd.

Nodiadau i'r Golygyddion

Penawdau:

Yng nghwmni disgyblion Ysgol Drury mae: Angela Madigan o'r Ymddiriedolaeth Cwn gyda Sebastian; Alison Donald o'r Ymddiriedolaeth Cwn, y Cynghorydd Mike Peers a'r Cynghorydd Dennis Hutchinson.

Yng nghwmni disgyblion Ysgol Sealand mae:

Alison Donald o'r Ymddiriedolaeth Cwn, Billy Unsworth, y Cynghorydd Christine Jones gyda Poppy, croes Jack Russell (o North Clwyd Animal Rescue, Trelogan) a Nicky Owen, hefyd o NCAR. Y tu ôl i'r disgyblion mae Owain Horton o NCAR a Scott Rowley, Cyngor Sir y Fflint

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.