Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dawns criw fflach yn lansio’r Olympiad Diwylliannol – prosiect Crochan a Ffwrnais

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 26/07/2011 am 09:40
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Celfyddyd, Diwylliant, Dawns, Gwyl, Cerddoriaeth, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Llwyfan

  • Flash Mob 1
  • FM2
  • FM3
  • FM4

Bywiogodd Stryd Fawr y Fflint drwyddi a llenwi â cherddoriaeth ar ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf, pan ddechreuodd grwp o bobl ddawnsio yn sydyn, er mawr syndod i’r rhai oedd yno. Trefnwyd dawns y criw fflach gan adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau, Cyngor Sir y Fflint a choreograffwyd y darn gan Angela Fessi, o gwmni NEW Dance. Roedd y dawnswyr yn bobl o bob oed ac yn dod o’r Fflint a llefydd eraill.

Trefnwyd y digwyddiad i lansio cyfraniad Sir y Fflint at yr Olympiad Diwylliannol trwy’r prosiect Crochan a Ffwrnais ac fel rhan o fenter genedlaethol ‘Penwythnos Agored’. Ar 23 Mehefin 2012 bydd Castell y Fflint yn bywiogi a llenwi â pherfformwyr, dawnswyr, campau’r syrcas a chewri yn dehongli treftadaeth yr ardal. Bydd cannoedd o bobl ifanc Sir y Fflint, yn ogystal â grwpiau cymunedol lleol, yn cymryd rhan yn y prosiect i ddathlu dyfodiad y Gemau Olympaidd i Brydain.

Meddai Robin Goddard, Cyfarwyddwr Celfyddydol ‘Crochan a Ffwrnais – Castell y Fflint’:

"Dyma’r cyntaf o lu o weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir trwy’r flwyddyn nesaf wrth baratoi at y diweddglo anhygoel sydd i’w gynnal fis Mehefin nesaf. Bydd pobl o bob cwr o Sir y Fflint yn cymryd rhan mewn paratoi at y perfformiad, gan wneud y dreigiau a’r cewri, dysgu symudiadau’r ddawns a chreu darnau cerddorol. Os hoffai unrhyw grwpiau cymunedol gymryd rhan gallant gysylltu â mi trwy swyddfa’r Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau ar y rhif 01352 702471."

Ar ôl y perfformiad byrfyfyr ar Stryd Fawr y Fflint aeth y dawnswyr ymlaen i Gastell y Fflint, sef y safle ar gyfer perfformio Crochan a Ffwrnais yn 2012, a pherfformio’r darn unwaith eto.

Am wybodaeth bellach neu os hoffech gymryd rhan ym mhrosiect ‘Crochan a Ffwrnais – Castell y Fflint’, cysylltwch â Gwenno Jones ar y rhif 01352 702471.

 

Flash Mob Fflint

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.