Cylchlythyr Chwefror 2013 - Jigsaw
Cylchlythyr Chwefror 2013 - Jigsaw
Dyma ychydig o ddyddiadau newydd ar gyfer eich dyddiaduron:
Grŵp Dinbych - Canolfan Gymunedol Eirianfa, Factory Place, Dinbych
Cyfarfodydd grŵp wythnosol - dydd Mercher o 9.30yb tan 11:3yb
Ddydd Mercher 30 Ionawr 2013 bydd Winnie Lawson, Ymgynghorydd Budd-daliadau CAB, yn mynychu ein grŵp i roi cyngor ac arweiniad ar ba fudd-daliadau a ellir eu hawlio gan deuluoedd.
Ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror, 2013 byddwn yn cynnal ein Sesiwn Teulu o 10.00am tan 12.00pm. Bydd Stuart, UKANUNI, yn dod i ddangos i’n teuluoedd sut i berfformio triciau syrcas amrywiol. Bu’r gweithgaredd yma’n llwyddiant ysgubol y tro diwethaf iddo fynychu ein sesiwn yn Y Rhyl ac rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu eto.
Ddydd Mercher, 6 Chwefror, 2013 bydd Bethan Perkins, o Snap Cymru, yn mynychu ein gr?p i roi cyngos ar addysg i ni.
Am ei bod yn hanner tymor, ni fydd unrhyw gyfarfod gr?p ar 13 Chwefror, 2013.
Dydd Mercher 27 Chwefror 2013 Bydd Jane Parkinson, Ymgynghorydd Diwygio Lles yn mynychu ein cyfarfod i roi gwybod i ni am y newidiadau o ran buddiannau sydd ar fin cael eu gwneud.
Grŵp Bae Colwyn - Canolfan Gymunedol Bryn Cadno, Colwyn Heights, Bae Colwyn
Cyfarfodydd gr?p wythnosol - dydd Iau o 9.30yb tan 11:30yb
Ionawr 31, 2013 - cyfarfodydd gr?p wythnosol newydd i ddechrau yng NghanolGymunedol Bryn Cadno, Colwyn Heights, Bae Colwyn o 9.30am tan 11.30am. Mae croeso i chi alw i mewn i'n gweld. Byddwn yno bob dydd Iau ar yr un pryd, yn ystod tymor ysgol Cyngor Sir Ddinbych. Ni fydd y gr?p yn cyfarfod ar 14 Chwefror, 2013 o ganlyniad i wyliau hanner tymor.
Ar ddydd Iau 28 Chwefror 2013 bydd Bethan Perkins, o Snap Cymru, yn mynychu ein gr?p i roi cyngos ar addysg i ni.
Grŵp Y Rhyl - Canolfan Y Dderwen, Ffordd Las, Y Rhyl
Cyfarfodydd grŵp Wythnosol - Dydd Gwener o 12.30pm tan 2.30pm
Dydd Gwener 1 Chwefror 2013 bydd Linda o Ganolfan Merched Gogledd Cymru yn mynychu ein gr?p i roi cyngor i ni am gyrsiau / gwasanaethau / cymorth mae’r Ganolfan Merched yn eu darparu.
Ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror, 2013 byddwn yn cynnal ein Sesiwn Teulu o 1.00am tan 3.00pm. Mae manylion y gweithgaredd i gael ei gadarnhau. Edrychwch ar ein gwefan am fanylion pellach, os gwelwch yn dda
Dydd Gwener 8 Chwefror 2013 bydd Michael Duke, Seicolegydd Addysgol, yn mynychu ein gr?p i roi cyngor i ni am Seiber fwlio.
Ni fydd unrhyw gyfarfod grŵp ar 15 Chwefror, 2013 o ganlyniad i wyliau hanner tymor a dim cyfarfod gr?p ar 22 Chwefror 2013 er mwyn i ni gael mynychu Cynhadledd Flynyddol Gr?p Llywio ASD Conwy a Sir Ddinbych, gweler y manylion isod.Dydd Gwener Mawrth 1, 2013 bydd Winnie Lawson, Ymgynghorydd Budd-daliadau CAB, yn mynychu ein gr?p i roi cyngor ac arweiniad ar ba fudd-daliadau a ellir eu hawlio gan deuluoedd.
Tripiau / Digwyddiadau
Dydd Llun 11 Chwefror, 2013 byddwn yn mwynhau diwrnod ym Mharc Gelli Gyffwrdd, diolch i grant a dderbyniwyd oddi wrth y o Gronfa’r Loteri Fawr.
Cyrsiau / Seminarau
Dydd Gwener 22 Chwefror 2013 bydd Gr?p Llywio ASD Conwy a Sir Ddinbych yn cynnal eu Cynhadledd Flynyddol yn y Gyfnewidfa Hen Golwyn.
Byddwn yn anfon manylion am y gynhadledd yn fuan, os hoffech chi archebu lle yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â Donna ar donna@jigsawsupport.org neu Barry Walkden yn barry.walkden2@conwy.gov.uk.
Am fwy o fanylion ewch i jigsawsupport.org.
Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig
Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwirfoddoli
Erthygl Perthnasol: Cyfle Gwirfoddoli 16+







