Cyfle Gwirfoddoli 16+
Mae Jig-so yn fudiad gwirfoddol sy'n darparu cyfleoedd i deuluoedd y mae eu plentyn wedi cael diagnosis o, neu'n cael eu hasesu ar gyfer, ADHD, Awtistiaeth neu broblemau ymddygiad, i gyfarfod a chael cyngor, arweiniad, dealltwriaeth, empathi a gwybodaeth. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd bob mis i’r teulu cyfan allu mwynhau gweithgareddau gyda'i gilydd.
Am fwy o fanylion ewch i: www.jigsawsupport.org.
Mae Jig-so angen gwirfoddolwyr i'w cynorthwyo i drefnu, cynnal a chymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian, fel y gallwn godi arian sydd ei wir angen i barhau i ddarparu cymorth i deuluoedd.
Rydym yn chwilio am amryw o wirfoddolwyr i’n cynorthwyo gyda’r canlynol:
- Sicrhau a chasglu gwobrau raffl;
- Trefnu dyddiau hwyl, a fydd yn cynnwys cysylltu â busnesau lleol sy'n gallu cynnal stondin ar y diwrnod;
- Goruchwylio o stondinau ar y diwrnod;
- Goruchwylio yn ein Digwyddiad Codi Arian Mawr ym mis Medi 2013;
- Hyrwyddo ein digwyddiadau codi arian.
Nid oes isafswm, nag uchafswm, oriau sy'n ofynnol gan bob gwirfoddolwr gan y bydd hyn yn benderfyniad unigol. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth ein gr?p ac Awtistiaeth ac ADHD, a all weithio ar eu liwt eu hunain yn ogystal â bod yn rhan o'n tîm a mwynhau cael hwyl.
Os ydych yn gallu gwirfoddoli eich amser i Jig-so anfonwch e-bost gydag eich CV i donna@jigsawsupport.org.
Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig







