Codi tâl am fagiau siopa yng Nghymru – yn cychwyn ddydd Sadwrn 1 Hydref 2011
Ddydd Sadwrn 1 Hydref 2011, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro. Mae Llywodraeth Cymru eisiau hyrwyddo defnydd ehangach o fagiau amldro i ddiogelu ein hadnoddau cyfyngedig, annog cynaliadwyedd, a lleihau gwastraff ac ysbwriel. Gobeithir y bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy leihau nifer y bagiau siopa untro a roddir i siopwyr yng Nghymru. Felly, o 1 Hydref 2011, bydd Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 yn cyflwyno tâl isafswm o 5c am bob bag siopa untro a roddir i siopwyr yng Nghymru. Bydd y tâl yn gymwys i bob siop, gan gynnwys siopau dillad, siopau bwyd parod, siopau cornel a stondinau marchnad. Gallwch osgoi’r tâl am fagiau siopa untro trwy gofio mynd â bagiau siopa gyda chi bob tro y byddwch chi’n siopa. Er mwyn cael awgrymiadau ar sut i gofio eich bagiau siopa neu gael mwy o wybodaeth am y tâl a ble fydd eich arian yn mynd, ewch i: http://www.carrierbagchargewales.gov.uk/ E-bost: carrierbagcharge@wales.gsi.gov.uk Ffôn: 029 2082 6230







