Cod QR: Beth Yw E?
Mae codau ymateb sydyn (Quick Response) yn cael eu hadnabod fel Codau QR a chawsant eu dyfeisio yn 1994 ar gyfer y diwydiant cerbydau oherwydd eu bod nhw'n gallu cael eu darllen yn sydyn ac efo cynhwysedd storio mawr/
Mae'r codau hyn yn cynnwys dotiau du wedi cael eu gwneud i mewn i batrwm sgwâr ar gefndir gwyn a chawsant eu creu gan Toyota i ddilyn cerbydau ar hyd y llinell gydosod.
Roedd y codau wedi'u dylunio i gael eu sganio ar gyflymder uchel i ddangos ble roedd y cerbyd hwnnw ar y cyfnod hwnnw. Mae'r Deyrnas Unedig bellach y seithfed defnyddiwr mwyaf cenedlaethol o godau QR.
Ers 2011 mae codau QR yn dod yn fwy cyffredin mewn nifer o wasanaethau a diwydiannau. Gall y rhain gynnwys adloniant, cludiant a hyd yn oed gwerthiant a marchnata.
Gan fod technoleg yn symud ymlaen maent yn targedu ffonau symudol. Mae'r codau yma yn galluogi ti i gymryd lluniau a derbyn y gwefannau neu gyfeiriadau URL i dy ffôn.
Ond ydy hyn yn golygu fod pob ffôn symudol yn gorfod cael app i sganio cod QR? Fydda nhw'n fwy cyffredin ar gyfer gwasanaethau hamdden a chlybiau neu grwpiau, ac ydym ni am weld nhw mewn mwy o gylchgronau ac ar y teledu, neu hyd yn oed ar fyrddau biliau neu du allan i siopau?
Y tro cyntaf welais i un erioed oedd pam edrychais ar Facebook a gweld bod cwmni llogi craen lleol wedi postio un fel llun proffil Facebook. Meddyliais beth oedd ef a cheisio deall mwy.
Yna lawr lwythais app oedd yn darllen codau QR a thynnu llun o'r cod a chafodd hwn ei sganio drwy'r app. Yn od, aeth a fi i wefan y cwmni craen lleol. Dwi nawr yn sylweddoli faint mae technoleg wedi symud yn e flaen a sut mae hysbysu wedi symud i mewn i 2011.
Gall firws gael ei ddarganfod wrth agor codau QR drwg a gall hyn effeithio dy gyfrifiadur neu ffôn. Ydy hi'n werth agor cod i dderbyn firws? Nac ydy!
Felly ydy'r codau yma yn werth y drafferth neu a'i hyn yw'r ffordd ymlaen? Fel pobl ifanc, beth sydd yn gwneud i ni fod eisiau sganio nhw a fydda ni'n eu defnyddio?
Fel person ifanc, dwi'n gofyn i ti: beth wyt ti'n feddwl o'r codau QR?
Erthyglau Technoleg Eraill








