Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Canlyniadau TGAU

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 25/08/2011 am 15:19
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg

Bydd myfyrwyr TGAU ledled Sir y Fflint yn awyddus i ddathlu heddiw, gan fod sôn am ganlyniadau arholiadau cyhoeddus ardderchog yn cael eu cyflawni yn ysgolion y sir.

Cyfanswm canran cyfraddau llwyddo TGAU (A*-G) i Gymru eleni yw 98.7%, sydd yr un peth â’r llynedd. O ganlyniadau Bwrdd Arholi Cymru (CBAC), 99.4% yw cyfradd llwyddo myfyrwyr yn Sir y Fflint, sy’n gyfartal i’r canlyniadau gorau erioed ar y cam hwn yn 2010.

Mae cyfraddau llwyddo gradd uwch (A* - C) ledled Sir y Fflint yn cyfrif am 72.0% o’r holl arholiadau cwrs llawn a ddilynir gyda’r Bwrdd yng Nghymru, sy’n gynnydd sylweddol o 2.1% o’i gymharu â 69.8% o’r holl ymgeisiadau ar y cam hwn y llynedd. Ledled Cymru, mae gwelliant bach o 0.1% wedi cynyddu cyfradd lwyddo A*-C ar bob cwrs i 66.5%.

Cyfran y graddau A ac A* a gyflawnwyd gan fyfyrwyr yn Sir y Fflint yw 18.6%, sy’n gynnydd o 1.2% ar ffigur 2010. Ledled Cymru gyfan, mae’r ffigur hon wedi cynyddu 0.4% i 19.5%.

Mae cyfanswm nifer yr ymgeisiadau pwnc gan fyfyrwyr yn Sir y Fflint gyda’r Bwrdd yng Nghymru yn arholiadau’r haf ychydig yn is na’r llynedd, gan adlewyrchu gostyngiad ledled Cymru, niferoedd is o fyfyrwyr yn gyffredinol ac ymgeisiadau ar gyfer cyrsiau ar wahân i TGAU. Er mai dyma’r rhan fwyaf o ymgeisiadau pwnc, gall y rhai a wnaed gyda byrddau arholi yn Lloegr effeithio ar y gyfradd lwyddo ar draws y sir.

Yn ogystal, mae rhai myfyrwyr yn Sir y Fflint yn sefyll arholiadau yn gynnar yn y flwyddyn erbyn hyn, yn hytrach nag yng nghyfnod yr haf. Dylai canlyniadau yn Sir y Fflint wella ymhellach pan gaiff yr ymgeiswyr hynny a safodd arholiadau’n gynnar eu hychwanegu at ganlyniadau o gyfnod yr haf yn unig.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Ian Budd:

"Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr Sir y Fflint am y canlyniadau TGAU ardderchog hyn. Maent o ganlyniad i ymrwymiad a gwaith caled ein myfyrwyr. Gall ein pobl ifanc symud ymlaen yn hyderus at addysg bellach yn Sir y Fflint. Mae’r Cyngor am longyfarch ein holl fyfyrwyr yn wresog ar eu llwyddiant."

Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol dros Ddysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Nigel Steele-Mortimer:

"Rwy’n llongyfarch y myfyrwyr ar eu canlyniadau eleni. Mae’r canlyniadau’n dangos gwaith caled disgyblion a staff addysgu mewn ysgolion yn Sir y Fflint."

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.