Cadetiaid awyr yn helpu i glirio Llwybr yr Arfordir
Llwyddodd cadlanciau awyr Treffynnon i fynd i’r afael â gordyfiant ar hyd Llwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ddiweddar.
Ymunodd y cadlanciau â Cheidwaid Arfordir Sir y Fflint i fynd i’r afael â rhan o’r llwybr ger safle hen waith glo’r Parlwr Du.
Cafodd dros 200 metr o’r llwybr cyhoeddus ei glirio a’i ailagor, wrth i’r cadlanciau a’r ceidwaid docio, cloddio a llusgo prysg a phridd oddi ar y llwybr diffiniol.
Cafodd ymdrechion y ceidwaid gryn argraff ar Peter Early, un o’r ceidwaid:
“Roedd y cadlanciau’n amlwg yn dîm brwdfrydig, disgybledig ac o dan reolaeth dda, ac aethant ati’n awchus i wneud eu gwaith. Ar ôl i ni roi’r teclynnau a’r offer diogelwch iddynt, ac egluro beth i’w wneud, aethant ati’n ddiymdroi i gwblhau’r dasg.”
Meddai Sue Davies, Prif Swyddog y cadlanciau:
“Cawsom ddiwrnod gwych ac roedd y tywydd yn braf ond gydag i ni orffen dechreuodd dywallt y glaw! Cawsom hwyl yn gweithio gyda cheidwaid yr arfordir ac rydym yn edrych ymlaen at yr her nesaf.”
Disgwylir i Lwybr yr Arfordir agor fis Mai nesaf, ac mae grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd y llwybr ar gael i’w ddefnyddio.
Gweithiodd BHP Billiton, perchnogion y safle, hefyd yn agos gyda’r ceidwaid i sicrhau mynediad at y llwybr. Mae’r cwmni hefyd yn noddi ceidwad yr arfordir sy’n gweithio yn Aber Afon Dyfrdwy.
I gael gwybodaeth am ymuno â sgwadron Treffynnon, cysylltwch â 2480@aircadets.org, neu www.2480sqn.org.uk.
I gael rhagor o fanylion am lwybr yr arfordir, ffoniwch 01244 814931.







