AI’R GAROL YMA FYDD YN GEFNDIR I’CH NOSWEITHIAU ALLAN Y NADOLIG YMA?
THE TWELVE DAYS OF CHRISTMAS
12pints a drinking ... 11 lads a laughing ... 10 drunken dances ...
9 pubs we crawled in ... 8 fights involved in ...
7 spliffs a smoking ... 6 strangers snogged ... 5 whiskey chasers!
4 lines of coke ... 3 piles of sick ... 2 broken teeth ...
And a night spent in A & E!
Yn ystod y Nadolig eleni, mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, o’r enw DAN 24/7, yn codi ymwybyddiaeth o’u gwasanaeth ar draws Cymru drwy asiantaethau, Gweplyfr, Trydar a radio lleol. Mae geiriau’r gân “Deuddeg Dydd Nadolig” wedi cael eu newid yn ein hysbyseb radio i gynrychioli sut fath o noson allan y bydd rhai pobl yn ei gael y Nadolig yma – os ydy’ch noson allan chi yn dechrau’n llawn hwyl efo ffrindiau ond yn gorffen efo chi ar eich pen eich hun yn A & E neu Orsaf yr Heddlu – yna mae’n bryd i chi siarad efo ni.
Bydd y llinell gymorth hefyd yn defnyddio safleoedd cymdeithasol fel Trydar a Gweplyfr yn ogystal â’n gwefan ni ein hunain www.dan247.org.uk i godi mwy o ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth – y syniadf ydy y byddwch yn gwybod yn iawn pwy ddylech ffonio,os oes gennych chi broblem yfed neu gyffuriau.
Dywedodd Janet Roberts, Rheolwr y Llinell Gymorth “ Yr adeg yma o’r flwyddyn gall fod yn anodd iawn i bobl sydd wedi troi’u cefnau ar ddefnyddio cyffuriau neu alcohol, oherwydd gall deimlo bod temtasiwn o’ch amgylch ym mhob man. Rydym eisiau iddyn nhw wybod ein bod ni yma 24/7 i gynnig cefnogaeth a gwybodaeth. Rydym hefyd eisiau gwneud yn si?r os ydy geiriau’r gân yn swnio’n gyfarwydd i unrhyw un sy’n gwrando, eu bod yn gwybod at bwy i droi am help.
Mae dros 2,000 o ymweliadau'r mis i’n gwefan ac o’r dudalen gartref gallwch ymuno â’n gr?p Gweplyfr, gallwch ymuno â’n trydarwyr niferus ar @dan_247 a chael y newyddion diweddaraf.
Dywedodd Helen Hughes, Rheolwr Tîm “Rydym wedi cysylltu â channoedd o asiantaethau ar draws Cymru gan ddarparu taflenni, cardiau a phosteri i roi i’w cleientiaid. Bydd llawer o asiantaethau ar gau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ac mae’n bwysig eu bod yn gwybod ein bod ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Wrth gwrs mae arnom eisiau gweld pawb yn mwynhau eu nosweithiau allan dros y Nadolig ond mae arnom eisiau i bawb fod yn ddiogel hefyd. Mae rhai pobl sy’n galw’r Llinell Gymorth wedi dweud wrthym yn y gorffennol fod y Nadolig yn gallu cuddio’ch problemau yfed neu gyffuriau oherwydd bod eraill hefyd yn gorwneud, ond i rai nid adeg o’r flwyddyn ydy’r unig reswm, dyma ydy realiti eu bywyd bob dydd.






