Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Crefydd
Diffinnir crefydd fel y gred mewn ac addoli duw neu dduwiau, neu system o gred a chyd-addoli. Mae llawer o wahanol fathau o grefydd ar draws y byd ac mae’r crefyddau mwyaf yn cynnwys Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth, Bwdiaeth, Hindwaeth a Sikhiaeth.
Mae Prydain yn gymdeithas aml-ffydd sy’n golygu bod gan bawb yr hawl i ryddid crefyddol ac y gallant ymarfer unrhyw grefydd o’u dewis. Mae cymdeithas Prydain yn cael ei hadnabod fel un sy’n hynod o oddefgar o gredoau a ffydd pobl eraill ac ymarferir y rhan fwyaf o grefyddau’r byd yma.
Ar draws Prydain gallwch ddod o hyd i bob math o gymunedau o’r grefydd Gristnogol, Hindwaidd, Iddewig, Mwslemaidd a Sikhaidd a chymunedau llai hefyd fel Bahá’í, Bwdhyddion, Jainyddion a Zoroastrianyddion yn ogystal â dilynwyr mudiadau crefyddol newydd.
Mae’r adran hon yn ymdrin â holl brif grefyddau’r byd, ble y lleolir y crefyddau hyn a’u credoau a’u harferion.
Mae’n bwysig deall a pharchu gwahanol systemau cred, yn arbennig os ydych yn teithio i wledydd tramor a rhai sy’n wahanol i’r rhai rydych wedi eu profi o’r blaen
.Sefydliadau
-
BBC Website
can you an overview of the world's main religions





