Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Prentisiaethau a hyfforddiant

Os hoffech ddysgu wrth i chi weithio, gallech feddwl am hyfforddiant yn seiliedig ar waith gyda chwmni lleol neu genedlaethol, gan weithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol neu Brentisiaeth Fodern.

Mae NVQs yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n dangos eich bod wedi cyflawni’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sy’n galluogi i chi wneud tasg yn effeithiol. Maent yn gymwysterau ymarferol lle rydych yn cael eich asesu wrth i chi weithio.

Rydych yn astudio un lefel ar y tro, gyda lefelau cymwysterau o 1 i 5. Bydd asesydd cymwys yn eich arsylwi ac yn gofyn cwestiynau i chi am y gwaith a wnewch, i brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth.

Weithiau bydd yn ofynnol i chi gynhyrchu portffolio neu ffolder o dystiolaeth i brofi y gallwch gyflawni tasgau arbennig.

Os yw’r aseswr yn fodlon eich bod wedi cyflawni’r safon genedlaethol ar gyfer y lefel rydych yn gweithio arni, byddant yn arwyddo i nodi eu bod yn derbyn eich gwaith ac yna gallwch symud ymlaen i’r uned neu i’r lefel nesaf.

Mae llawer o NVQs i ddewis ohonynt, gan gynnwys busnes a rheoli, peirianneg ac adeiladu, gofal iechyd a harddwch, arlwyo a gwasanaethau hamdden. Gellir astudio NVQs fel rhan o hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith, yn y coleg, neu fel rhan o Brentisiaeth.

Sicrheir bod rhai 16-17 oed nad ydynt mewn addysg na gwaith yn cael lle hyfforddi ac mae’r lleoedd yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Mewn rhai amgylchiadau mae lleoedd hyfforddi ar gael hefyd i rai 18-24 oed.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.