Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau
- Mae’r llywodraeth yn darparu cymorth ariannol i rai pobl ar ffurf budd-daliadau
- Ymhlith y bobl hynny a allai fod â hawl i fudd-daliadau mae pobl ar incwm isel, pobl ddi-waith, merched sy’n cael babi, pobl ag anableddau a phobl â phlant
- Mae’r adran yma’n edrych ar y gwahanol fathau o fudd-daliadau sydd ar gael. I gael gwybodaeth am sut i hawlio budd-daliadau penodol, gwelwch yr adran berthnasol
Gwneud cais am neu ail-hawlio budd-daliadau
Gallwch ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith ar rif newydd i wneud cais am fudd-dâl.
Ffôn: 0800 0 55 66 88
Ffôn testun: 0800 0 23 48 88 os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar y lleferydd.
Mae’r galwadau’n rhad ac am ddim o ffonau tirwifren. Mae’n bosib y bydd rhaid talu ffi wrth ddefnyddio ffôn symudol, ond gall y Ganolfan Byd Gwaith drefnu i’ch ffonio nôl os ydych chi’n gofyn.
Ffoniwch rhwng 8.00 am a 6.00 pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener.





