Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint
Datganiad Cenhadaeth
Meithrin hyder i fynd i’r afael â phroblemau, lleisio barn, gan wneud ffrindiau a chael hwyl ar yr un pryd,
“Dod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth”
Yr hyn yr ydym wedi’i wneud.
- Rydym wedi trefnu Cynadleddau Ieuenctid bob blwyddyn ers 2005. Mae’r holl faterion a godwyd wedi cael eu cyflwyno i Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint i gael eu datrys.
- Rydym yn mynd ar deithiau preswyl i gynllunio cynadleddau a thrafod materion a godwyd gan bobl ifanc eraill yn ein cymunedau.
- Rydym wedi cynhyrchu DVD i hyrwyddo Ymestyn Hawliau a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc megis seiberfwlio a pheryglon benthycwyr arian didrwydded.
- Rydym yn mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth Pobl Ifanc i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac i wneud newidiadau.
- Rydym yn gweithio ar lawer o wahanol brosiectau gan ddefnyddio cerddoriaeth, drama, celf a chrefft. Unrhyw beth sy’n hwyliog ac yn gynhyrchiol!
- Mae gennym gynrychiolaeth lawn ar y Ddraig Ffynci.
- Rydym yn mynd i’r afael â materion sy’n effeithio arnom fel pobl ifanc gyda’r bobl a’r sefydliadau sy’n gwneud penderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys yr heddlu, y Gwasanaeth Ieuenctid, yr Adran Addysg, gwasanaethau hamdden a llawer mwy.
- Rydym yn cynnal ymgynghoriadau bach megis “Happy Town” a “Castaways” gyda phobl ifanc eraill yn Sir y Fflint trwy grwpiau ysgolion, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Clybiau Ieuenctid a grwpiau eraill sy’n cefnogi a gweithio gyda phobl ifanc.
- Mae gennym Brosiect Arolygwyr Ifanc. Mae’r Arolygwyr Ifanc yn gweithio gyda mudiadau a gwasanaethau i bobl ifanc gan eu harolygu i sicrhau eu bod yn darparu’r math o wasanaeth sydd ei eisiau ar bobl ifanc. Maent yn rhoi argymhellion ac awgrymiadau am y ffordd y gallai’r gwasanaethau fod yn well ac yn fwy hygyrch i bobl ifanc.
- Rydym yn cael amser da ac yn mynd ar deithiau a theithiau preswyl sy’n golygu ein bod yn cael amser i fwynhau ein hunain ac ymlacio gyda’n gilydd. Mae popeth yn cael ei gynllunio gan bobl ifanc ac rydym yn gofalu fod pawb yn y grwp yn cael rhoi eu barn am yr hyn a wnawn.
Y dyfodol
- Byddwn yn parhau â’r Fforwm Theatr, gan edrych ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc ac yn dal ati i greu ffyrdd newydd ac arloesol o gynrychioli ein bywydau.
- Y Gynhadledd Ieuenctid – Cynhelir y gynhadledd ieuenctid nesaf ar 26 Mawrth yng Nghanolfan Glanrafon, Yr Wyddgrug. Dewch draw, mae’n ddiwrnod gwych ac yn ffordd hwyliog o leisio’ch barn am bethau sy’n bwysig i chi! Bydd bwyd yn cael ei ddarparu am ddim, gweithdai a gweithgareddau hwyliog yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd, heb sôn am y bagiau nwyddau enwog!! Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 25 oed.
- Rydym yn cynllunio taith breswyl i edrych ar yr holl wybodaeth a gasglwn yn y gynhadledd. Yna byddwn yn cyflwyno’r materion i’r Bartneriaeth Pobl Ifanc.
- Mae’r prosiect “Yn ôl i’r Dyfodol” yn parhau am flwyddyn arall. Prosiect canoloesol yw hwn sy’n cymharu bywydau pobl ifanc y gorffennol â bywydau pobl ifanc heddiw. Yn union fel y llynedd, byddwn yn treulio amser yn y goedwig yn byw’r bywyd canoloesol!!
- 2011 yw ein ‘Blwyddyn mewn Partneriaeth’ â’r Urdd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at hyn!! Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o newyddion……
Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud ac am ddarganfod mwy, cysylltwch â ni a dewch i weld drosoch eich hun.
Mae Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint yn cyfarfod ar nos Fawrth o 5 tan 9pm ac ar nos Iau o 7 tan 9pm yng Nghanolfan Glanrafon, Yr Wyddgrug. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ali ar 01352 770232 neu anfonwch e-bost at alison.jane.thomas@flintshire.gov.uk
Diweddarwyd Mawrth 2011




