Siop Wybodaeth
Siop Wybodaeth Bwcle
Mae Siop Wybodaeth newydd Ieuenctid Bwcle yn awr ar agor! Mae’r siop ar agor rhwng 2:30 – 5pm dydd Mawrth a dydd Iau.
Siop Wybodaeth Treffynnon
Mae’r Siop Wybodaeth Pobl Ifanc newydd yn awr yn barod i redeg gwasanaeth llawn. Mae’r cyntaf o’i fath yn y Sir ac mae yno i chi gael mynediad i wybodaeth ar bob math o faterion sydd yn berthnasol yn eich bywyd os ydych chi rhwng 11 a 25.
Mae’r wybodaeth sydd yn cael ei ddarparu:
- Am ddim ac yn gyfrinachol
- Yn annibynnol a’n ddiduedd
- Yn gywir a chyfoes
- Yn cyflenwi pob anghenion a diddordebau.
Mae’r gwasanaethau sydd yn cael ei ddarparu yn cynnwys:
- Mynediad i’r we am ddim i gael mynediad at wybodaeth benodol i bobl ifanc
- Taflenni, pamffledi a phosteri am ddim am ystod eang o bynciau
- Cefnogaeth gyfrinachol a chyfarwyddyd gan staff sydd wedi’i hyfforddi, yn broffesiynol ac yn gyfeillgar i bobl ifanc.
- Arwyddbostio a mynediad i sefydliadau a gwasanaethau eraill ar gyfer pobl ifanc.
Gweithwyr arbenigol ar gael gan gynnwys:
- Shelter Cymru sesiwn galw heibio digartrefedd – Bob dydd Llun 2 – 4pm
- Clinig Cyngor Iechyd Cyfrinachol i Bobl Ifanc (CHAT) – Bob dydd Mercher 3 – 5pm
- Cynghorydd Gyrfa Cymru – Bob dydd Mercher 12 – 4pm
- Addysg/gwybodaeth ‘Rhyw Ddiogel’ a chondomau am ddim ar gael o dan ‘Cynllun Cerdyn C’ bob dydd.
- Mae Gwasanaeth Eiriolaeth ‘Word on the Street’ (WOTS) hefyd ar gael yn y Siop Wybodaeth. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Oriau Agor
Llun – Sadwrn 12 – 2pm
Llun – Gwener 3 – 5pm
Siop Wybodaeth Ieuenctid Sir Fflint
79 Stryd Fawr, Treffynnon, Sir Fflint. CH8 7TF
Ffôn/Ffacs: 01352 717818
E-bost: youth.info@flintshire.gov.uk




