Gwefan Ieuenctid Sir y Fflint Y grŵp 'Speaking Out for Children in Care'
Helo,
Ni yw’r grŵp ‘Speaking Out for Children in Care’ (neu’r S.C.C!).
Bob pythefnos, rydym yn cyfarfod â staff y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol i drafod sut i wneud pethau’n well ar gyfer plant fel ni sydd mewn gofal!
Rydym am egluro ychydig mwy am bwy ydym ni a’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni. Yn ogystal, rydym am rannu gwybodaeth am yr hyn yr ydym wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod er mwyn i chi fedru cymryd rhan!
Dyma aelodau’r grŵp S.C.C.:
- Chelsea Cody
- Dawn Dean
- Jake
- Tom
- Yn 2009, cafodd ein gwaith caled ei wobrwyo â gwobr Rhagoriaeth Sir y Fflint! Yn ogystal, llwyddom i ennill gwobr Rhagoriaeth Cymru yn 2006.
- Rydym wedi cynhyrchu pecynnau croeso ar gyfer plant sy’n dechrau cael gofal. Mae’r pecynnau’n cynnwys pethau ymolchi, taflenni gwybodaeth, cerdyn ffôn a negeseuon o gymorth gan y grŵp.
- Rydym yn trefnu digwyddiadau Dweud eich dweud yn rheolaidd i roi cyfle i bobl ifanc fynegi eu barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant. Mae digwyddiad Dweud eich dweud yn ddigwyddiad hwyl lle rydych yn cael y cyfle i ddweud eich barn, a dweud beth ddylai gael ei newid yn eich barn chi. Caiff gweithgaredd hwyliog, megis sglefrio iâ, ei gynnal ar ddiwedd pob digwyddiad Dweud eich dweud.
- Rydym yn helpu i drefnu gwobrau Balchder Sir y Fflint. Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau pobl ifanc mewn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal.
- Rydym wedi cyfweld â phobl am swyddi gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Y swydd ddiwethaf i ni gyfweld ar ei chyfer oedd nyrs ar gyfer plant mewn gofal. Rydym wedi cyfweld ag eiriolwyr ar gyfer y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol hefyd.
- Mae un o aelodau’r grŵp, Tom, yn aelod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant (sy’n gyfarfod pwysig iawn lle caiff llawer o benderfyniadau eu gwneud), ac rydym yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle i leisio’u barn.
- Fel unigolion, rydym wedi datblygu llawer o sgiliau newydd megis hyder, sgiliau cyfweld, sgiliau cymryd cofnodion, sut i gadeirio cyfarfod, sut i weithio fel tîm a dod i adnabod pobl newydd.
Mae pob un ohonom rhwng 12 a 17 oed. Rydym yn gweithio gyda 6 aelod o staff - Alison, Ian, Tracy J, Caroline, Tracie D - a chynrychiolydd o’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.
Ein nod yw helpu pobl ifanc sy’n derbyn gofal i gymryd rhan, a rhoi cyfle i bawb fynegi eu barn. Trwy rannu ein barn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyngor, mae’n eu helpu i wybod pa fath o wasanaeth yr ydym am ei gael yn y dyfodol.
Beth mae’r S.C.C. wedi’i gyflawni?
Os oes amser gennych, cymerwch gip ar ein hadroddiadau a’n llythyrau newyddion diweddaraf trwy glicio ar y ddolen gyswllt isod:
Sut i gymryd rhan
Mae croeso i chi wneud cais i ymuno â’r grŵp S.C.C. neu fynychu digwyddiad Dweud eich dweud.
Rydym yn trefnu digwyddiadau Dweud eich dweud yn ystod gwyliau’r ysgol, ac mae pawb yn cael llythyr o flaen llaw i’w gwahodd.
Os oes gennych fater yr hoffech i’r grŵp S.C.C. ei drafod yn ei gyfarfodydd, mae croeso i chi gysylltu â ni. Gallwch ffonio Alison Kulkowski ar 01352 702655, anfon e-bost atom ni ar speak-out@hotmail.co.uk, neu anfon eich sylwadau trwy’r post at:
Alison Kulkowski
Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6ND
Diolch am gymryd amser i ddarllen ein tudalen




