Beth yw Fflint yr Ifanc?
Mae Fflint yr Ifanc yn wefan ryngweithiol sy’n anelu at eich helpu i gael gafael ar bopeth y mae gennych hawl i’w gael fel unigolyn ifanc yng Nghymru:
- Addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith sydd wedi’u hanelu at eich uchelgeisiau
- Hyfforddiant Sgiliau Sylfaenol i agor drysau i well dyfodol
- Ystod eang ac amrywiol o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau
- Mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau ar eich cyfer
- Cyngor am fudd-daliadau iechyd a thai
- Cyfleoedd hamdden a chwaraeon i chi mewn amgylchedd ddiogel, gyda chyfle i gymdeithasu
- Cyngor gyrfaol unigol i archwilio’ch diddordebau a’ch galluoedd
- Cymorth a chyngor cyfrinachol am faterion y teimlwch sy’n bwysig i chi
- Profiadau chwaraeon, artistig a cherddorol i ddatblygu ac ehangu’ch syniadau
- Cael pobl i wrando arnoch a chlywed eich barn
Yn 2009, unodd Fflint yr Ifanc â CLlC, sef y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y bydd modd i bobl ifanc Sir y Fflint barhau i ddefnyddio gwefan Fflint yr Ifanc i gael gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau lleol, ond ar ben hynny bydd modd iddynt gaelgwybodaeth am weddill Cymru hefyd.
Mae’r wefan bellach yn cynnwys nifer o nodweddion newydd gan gynnwys tudalen ddigwyddiadau, cronfa ddata o wasanaethau, dolenni i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, chwaraewyr cyfryngau a Youtube. Yn bwysicaf oll, mae cyfleuster ar gael bellach sy’n eich galluogi CHI i lwytho adolygiadau, storïau ac erthyglau am bethau sy’n bwysig i chi ar y wefan.
Lansiwyd y wefan yn swyddogol ym Mhentref Ieuenctid Gwyl Cei Connah ym mis Mehefin 2010.




